Llys y Goron Yr Wyddgrug
Mae Neuadd Sir Cyngor y Fflint wedi cael ei gwagio yn dilyn adroddiadau bod bygythiad bom yn yr adeilad.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r adeilad yn Yr Wyddgrug am tua 11:35 bore yma ac mae ymchwiliadau i beth achosodd y bygythiad yn parhau.

Mae Llys y Goron Yr Wyddgrug wedi ei wagio hefyd gan ei fod gyferbyn ag adeilad y cyngor, ac mae rhai achosion llys wedi gorfod cael eu gohirio.

Mae Lôn Rakes hefyd ar gau i gerbydau.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru nad oes neb wedi cael niwed a bod pawb yn ddiogel.

“Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi cael gwybod ac maen nhw ar y safle fel sy’n arferol mewn digwyddiadau o’r fath,” meddai’r Uwch-arolygydd, Alex Gross.

“Rydym yn dal i fod ar y safle ac mae e’n ymchwiliadau’n parhau. Hoffwn ddiolch i bawb am eu hamynedd a’u dealltwriaeth wrth i ni barhau i ddelio â’r mater.”