Ashley Talbot
Ni fydd athro oedd yn gyrru bws mini pan gafodd bachgen 15 oed o Faesteg ei daro a’i ladd yn wynebu unrhyw gyhuddiadau.

Cafodd Ashley Talbot ei daro gan fws mini Ysgol Uwchradd Maesteg, oedd yn cael ei yrru gan yr athro Ymarfer Corff, Chris Brooks, ar Ragfyr 10, 2014.

Dioddefodd bachgen arall 13 oed anafiadau yn y digwyddiad.

Cafodd Chris Brooks, 34, ei holi gan Heddlu’r De ar y pryd ond ni fydd yn wynebu cyhuddiadau, er bod yr ymchwiliad yn parhau.