Gwaith dur Port Talbot
Mae’r diwydiant dur wedi cael ergyd arall heddiw ar ôl i gwmni Tata gadarnhau eu bod yn cael gwared a mwy na 1,000 o swyddi.

Fe fydd y rhan fwyaf o’r diswyddiadau yn eu safle ym Mhort Talbot lle bydd 750 o swyddi’n diflannu.

Ond bydd 300 o swyddi eraill hefyd yn cael eu colli yn Llanwern ger Casnewydd,  Trostre yn Llanelli, Corby a Hartlepool.

Dywedodd prif weithredwr Tata Steel yn Ewrop, Karl Koehler bod gweithredu “yn hanfodol yn wyneb amodau hynod o anodd yn y farchnad ac mae disgwyl i bethau  barhau’n anodd yn y dyfodol.”

Ychwanegodd bod yn rhaid i’r Comisiwn Ewropeaidd gyflymu eu hymateb i fewnforion o ddur rhad.

“Mae peidio gwneud hyn yn bygwth dyfodol yr holl ddiwydiant dur yn Ewrop.”

“A thra ein bod ni’n croesawu’r camau o ran costau ynni’r DU, mae’n rhaid i’r Llywodraeth weithredu ar frys i gynyddu cystadleuaeth y DU ar gyfer y sector dur.”

‘Heriau digynsail’

Ychwanegodd bod Tata wedi buddsoddi £1.5 biliwn yn ei safleoedd yn y DU a bod “angen i’r holl randdeiliaid wneud popeth yn eu gallu i gwrdd â’r heriau digynsail sy’n wynebu’r sector dur.”

Mae’r undebau wedi cyhuddo’r Llywodraeth o ymateb yn rhy araf gan ddweud bod y newyddion diweddaraf yn drychinebus i gymunedau lleol.

Mae undeb Community wedi dweud y bydd yn herio cynlluniau’r cwmni.

‘Gweithredu’n rhy araf’

“Nid yw’r cyhoeddiad heddiw yn adlewyrchiad o sgiliau ac ymrwymiad gweithlu Tata Steel, sydd wedi bod yn torri record o ran cynhyrchiant dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Yn hytrach, mae’n bennod arall yn argyfwng y diwydiant dur yn y DU a diffyg ymateb priodol gan y Llywodraeth,” meddai’r ysgrifennydd cyffredinol Roy Rickhuss.

“Mae’r diwydiant angen gweithredu ystyrlon gan Lywodraeth y DU sydd, hyd yn hyn, wedi bod yn siarad yn gyflym ond yn gweithredu’n araf, er gwaetha rhybuddion parhaus gan Community y byddai’r oedi cyn rhoi cefnogaeth i ddur yn cael effaith ar swyddi.”

‘Ergyd anodd’

Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi bod yn cynnal cynhadledd newyddion bore ma yn ymateb i’r newyddion gan ddweud ei fod yn “ergyd anodd i’r gymuned, y teuluoedd a’r busnesau lleol.”

Dywedodd David Cameron ei fod yn “amser pryderus iawn” i’r teuluoedd a bydd Llywodraeth San Steffan yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i wneud popeth yn eu gallu i gefnogi’r diwydiant dur.

‘Cyfnod pryderus iawn’

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb bod y diswyddiadau yn “ergyd sylweddol i gymuned Port Talbot a’r economi leol. Mae gweithwyr y ffatri a’u teuluoedd yn wynebu cyfnod pryderus iawn, a’n blaenoriaeth yw helpu’r rhai sy’n debygol o gael eu heffeithio.

“Fe fydd Llywodraeth y DU yn parhau i wneud yr hyn y gallai i gefnogi diwydiant dur sy’n wynebu pwysau aruthrol o ganlyniad i fewnforion o ddur rhag a gostyngiad byd eang mewn prisiau. Mae hynny’n golygu gweithio gyda Tata i sicrhau eu bod yn parhau yn bresenoldeb sylweddol yn ne Cymru.”

‘Gweithredu gyda’i gilydd’

 

Mae AC y Democratiaid Rhyddfrydol, De Orllewin Cymru, Peter Black wedi galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i weithio gyda’i gilydd i sicrhau dyfodol gwaith dur Tata ym Mhort Talbot.

“Dylai Llywodraeth Cymru wneud popeth o fewn ei gallu i gynorthwyo’r rheiny sydd wedi’u diswyddo a’u helpu i ailhyfforddi i chwilio am waith arall,” meddai gan rybuddio fod y swyddi hyn yn rhai sy’n talu’n dda ac yn anodd eu hadleoli.

Fe rybuddiodd y gallai mwy o swyddi gael eu colli os nad yw’r llywodraethau’n gweithredu’n gyflym.

“Ein prif nod bellach yw sicrhau fod y swyddi sydd ar ôl yn cael eu diogelu drwy fynd i’r afael â rhai o’r achosion sydd wedi arwain at yr argyfwng hwn.”

“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU weithio gyda’i gilydd i roi’r gorau i ddympio dur rhad o China, i dorri costau ynni ac i liniaru costau eraill fel trethi busnes uchel.

“Os nad yw’r llywodraethau’n gweithredu’n gyflym ac yn bendant gyda’i gilydd, dw i’n ofni y gallwn golli mwy o swyddi. Allwn ni ddim gadael i hynny ddigwydd.”

‘Buddsoddi ym Mhort Talbot’

Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar yr holl opsiynau, gan gynnwys noddi’r cwmni dros dro, mynd i bartneriaeth gyda Tata, ynghyd â sicrhau cefnogaeth ychwanegol ar ynni, trethi busnes a gweithredu ar lefel Ewropeaidd.

“Mae’n rhaid inni weithio fel un wrth ystyried ystod eang o opsiynau radical sy’n asesu’r hyn sy’n mynd ymlaen yn y diwydiant dur a darparu canlyniadau effeithiol,” meddai Bethan Jenkins, AC Plaid Cymru, De Orllewin Cymru.

Fe esboniodd fod Plaid Cymru wedi cynnig y dylai Llywodraeth Cymru fuddsoddi’n rhannol yng ngwaith dur Port Talbot gan ddweud fod y gostyngiad mewn prisiau dur “yn debygol o fod yn rhai dros dro.”

“Os byddai Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn y safle hwn, gallai fod yn y gwaith dyfeisio sy’n digwydd yno, neu’r gwaith ynni a hyd yn oed y gloddfa ddrifft sy’n cael ei thrafod ym Margam. Gallai Tata gael y dewis wedyn i brynu cyfran Llywodraeth Cymru, fel digwyddodd yn yr Almaen.

“Dw i wedi dweud o’r blaen nad ydw i am fyw yng Nghymru nad sy’n cynhyrchu dur mwyach. Mae’n rhaid inni ddod o hyd i’r atebion yma, yn y wlad hon, er mwyn gwneud yn siŵr na fydd hyn byth yn digwydd eto.”