Yn y dyfodol agos, ac yn llawer cynt na’r disgwyl, fe fydd systemau cyfieithu cyfrifiadurol yn medru cynhyrchu testun o ansawdd sydd “yn well na gwaith cyfieithwyr proffesiynol”.

Dyna’r darogan gan un sy’n ymddiddori yn natblygiadau’r byd technolegol a’i effaith ar yr iaith Gymraeg ers y 1980au.

Fe brynodd Rhoslyn Prys ei gyfrifiadur cyntaf, Commodore 64, yn 1984. Bu’n ymddiddori yn y maes fyth ers hynny.

Ac mae’n rhybuddio bod “chwyldro technolegol enfawr ar droed” a bod angen i’r gymuned Gymraeg ei hiaith feddwl o ddifrif am oblygiadau deallusrwydd artiffisial (artificial intelligence) arnom.

“Yn fuan iawn mae cyfieithu cyfrifiadurol yn mynd i fod yn dod yn dda iawn,” meddai.

Mae’r systemau gwybodaeth newydd yn mynd i fod yn “lot rhatach na chyflogi staff” yn ôl Rhoslyn Prys, sy’n dadlau bod angen i gynghorau sir, Llywodraeth Cymru a’r awdurdodau iechyd ddechrau meddwl am yr effaith ar y gwasanaethau maen nhw’n gynnig i drigolion.

‘Cyflymu gwaith cyfieithwyr, nid eu disodli’

Ond mae un o brif arbenigwyr cyfieithu’r Cynulliad yn dweud nad yw’n gweld y dydd pan ddaw’r cyfrifiadur i ddisodli’r cyfieithydd dynol.

“Ar hyn o bryd, tydi safon cyfieithu peirianyddol ddim digon da i’w gyhoeddi,” meddai Gruffydd Jones.

“Yn aml iawn mae o’n cael pethau yn anghywir. Dyna sail yr holl hanesion rydan ni wedi’i weld o gam-gyfieithu…

“O ddefnyddio’r dechnoleg yn gywir, mae o’n helpu ni i gyfieithu mwy, yn gynt.

“Ar hyn o bryd, dw i ddim yn gweld cyfieithu peirianyddol yn disodli cyfieithu proffesiynol yn llwyr. Ella fy mod i’n anghywir.”

Y stori gyflawn yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg.