Nick Bennett
Mae un o gynghorau cymuned y de yn dweud bod darparu cofnodion Cymraeg o’u cyfarfodydd yn ‘rhy ddrud’.
Wythnos nesaf fe fydd Cymdeithas yr Iaith yn cwrdd gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i drafod ei benderfyniad i orfodi Cyngor Cymuned Cynwyd i gyfieithu cofnodion ac agenda eu cyfarfodydd Cymraeg i’r Saesneg.
Bu cwynion lu am benderfyniad yr Ombwdsmon, gydag ymgyrchwyr yn nodi nad yw’n ofynnol i gynghorau cymuned sy’n gweithredu yn Saesneg i gyfieithu dogfennau i’r Gymraeg.
Cred rhai fod yr Ombwdsmon wedi creu sefyllfa anheg sy’n anffafriol i gynghorau cymuned sy’n gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ond mae’r Ombwdsmon Nick Bennett wedi datgelu wrth gylchgrawn Golwg bod Comisiynydd y Gymraeg wedi cael gweld copi drafft o’i adroddiad i’r cwynion am Gyngor Cymuned Cynwyd, “ac ni chododd unrhyw fater o safbwynt y gyfraith na’r adroddiad yn gyffredinol”.
‘Rhy ddrud’
Bu Cell Caerdydd y Gymdeithas yn gofyn am ddogfennau Cymraeg gan rai o gynghorau cymuned y brifddinas, a daeth ateb yn ôl gan glerc Cyngor Cymuned Radur yn cyfeirio at eu Cynllun Iaith Gymraeg.
Ynddo mae’r cyngor yn nodi: ‘Ystyrir bod y gost o ddarparu cofnodion yn yr Iaith Gymraeg yn rhy ddrud a thu hwnt i’r hyn sy’n rhesymol i’w orfodi ar y rhai sy’n talu Treth Cyngor’.
Yn ôl Cadeirydd Cell Caerdydd y Gymdeithas, mae’n rhesymol disgwyl i Gyngor Cymuned Radur ddarparu’r Cofnodion yn y ddwy iaith. Yn ôl Cyfrifiad 2011 mae 10% o drigolion yr ardal yn medru siarad, darllen a sgrifennu Cymraeg.
“Rydan ni gyd yn talu treth ac mae arian cyhoeddus yn cynnal cynghorau lleol o’r fath,” meddai Carl Morris.
“Dyw e ddim yn gosod esiampl dda i bobol ifanc yn yr ardal, ac mae’n mynd yn groes i hawliau pobol i fyw yn Gymraeg.”
‘Ffrae Cyngor Cynwyd yn dal i ffrwtian’ yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg.