O wefan gwasanaeth tan
Mae dyn oedrannus wedi marw mewn tân mewn tŷ ym Mlaenau Ffestiniog dros nos, yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Cafodd gwasanaethau brys eu galw i’r cartref yn Ffordd Bodwydd, Blaenau Ffestiniog ,tua 9.30 neithiwr.

Fe ddaeth achubwyr o hyd i’r dyn a’i dynnu o’r tŷ, ond fe gyhoeddwyd ei fod eisoes wedi marw.

Mae’r heddlu a’r gwasanaethau tân bellach yn ymchwilio i achos y tân.