Mae sbwriel yn peryglu da byw, meddai'r Parc
Mae pobol wedi cael rhybudd i beidio â thaflu sbwriel yn y wlad ar ôl i wraig orfod talu mwy na £600 am drosedd yn un o ardaloedd hardda’ Cymru.

Ac yn ôl swyddog yn un o’r tri pharc cenedlaethol, mae taflu sbwriel ar gynnydd ac, erbyn hyn, ar lefelau “arswydus”.

Mae’n gallu peryglu iechyd teuluoedd sy’n crwydro cefn gwlad, meddai, ac yn gallu lladd bywyd gwyllt.

Achos ar y Mynydd Du

Mae Cyngor Sir Gâr wedi tynnu sylw at achos Pamela Ann Jones, 52, o Heol Cowell yn Garnant, ar ôl iddi gael dirwy o £100 a wynebu costau o £520 ar ôl pledio’n euog i daflu sbwriel ar y Mynydd Du rhwng Brynaman a Llandeilo.

Yn ôl y cyngor, roedd hi wedi trefnu i ddau ddyn anhysbys glirio tŷ ei brawd ac wedyn taflu’r sbwriel ar y mynydd sy’n rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac yn enwog am ei olygfeydd hardd.

‘Torcalonnus’

“Mae’n dorcalonnus i weld cynnydd cyson yn nifer yr achosion o daflu sbwriel ar y slei trwy’r Parc,” meddai’r warden lleol, Toby Small.

“Mae’r holl sbwriel a’r gwastraff peryglus a phwdr yr wy’n dod o hyd iddo yn aml yn arswydus.

“Mae’n aml yn creu perygl difrifol, nid yn unig i deuluoedd sy’n dod ar ei draws on hefyd i anifeiliaid gwyllt a da byw sy’n pori yn yr ardaloedd hyn.

“Mae ymwelwyr a phobol leol fel ei gilydd yn dod yma i fwynhau harddwch y wlad ac mae taflu sbwriel yn dinistrio’r profiad hwnnw, gyda’r peryg ei fod yn bygwth busnesau a swyddi lleol.”