Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi dweud bod “gwaith i’w wneud o hyd” i wella’u hymateb i alwadau brys yn dilyn marwolaeth merch chwech oed a dagodd ar rawnwin ym Morfa Nefyn.

Mae crwner wedi beirniadu’r Gwasanaeth Ambiwlans ar ôl i Jasmine Lapsley dagu i farwolaeth tra’n aros 25 munud am ambiwlans.

Wrth gofnodi rheithfarn o farwolaeth trwy ddamwain, dywedodd y crwner Nicola Jones bod angen llawer mwy o ambiwlansys ar ddyletswydd dros yr haf pan mae poblogaeth Gwynedd yn cynyddu oherwydd ymwelwyr.

Poblogaeth ‘yn treblu’ dros yr haf

Dywedodd cynghorydd Plaid Cymru ym Morfa Nefyn, Sian Wyn Hughes wrth Golwg360: “Rwyf yn gefnogol i awgrymiadau’r crwner ac yn teimlo y dylid gweithio ar y rhain, sef y dylai fod yna fwy o ambiwlansys â gweithwyr wedi eu hyfforddi arnynt; y dylsai’r Gwasanaeth Iechyd, yr ambiwlans a’r ambiwlans awyr fod efo dealltwriaeth fod poblogaeth rhai ardaloedd yng Ngwynedd yn treblu dros gyfnod yr haf a chydnabod hyn.”

Ychwanegodd bod angen i’r Gwasanaeth Ambiwlans awyr “fod yn wasanaeth 24 awr; a bod angen hyfforddi mwy o bobol i fod yn ymatebwyr cyntaf mewn ardaloedd gwledig.”

Aros 25 munud am ambiwlans

Clywodd y cwest fod Jasmine o Lerpwl, oedd ar ei gwyliau ym Morfa Nefyn, wedi bod yn bwyta grawnwin ar Awst 19, 2014 pan aeth un yn sownd yn ei gwddf.

Dywedodd ei rhieni eu bod nhw wedi ceisio’i hachub hi cyn mynd at blismon a dynion tân oedd yn digwydd pasio a gofyn am gymorth.

Ond wrth aros am ambiwlans i gyrraedd, dioddefodd Jasmine ataliad ar y galon.

Cafodd hi ei chludo yn y pen draw i Ysbyty Gwynedd ym Mangor gan hofrennydd yr Awyrlu gan nad oedd yr Ambiwlans Awyr ar gael yn y nos.

Cafodd ei pheiriant cynnal bywyd ei ddiffodd ar ôl cyfnod.

Roedd dau ambiwlans oedd agosaf i’r digwyddiad ar y pryd eisoes yn ymateb i alwadau brys, ac fe gyrhaeddodd ymatebwyr cyntaf y safle ar ôl 22 munud.

Cymerodd hi 25 munud o’r alwad gyntaf i ambiwlans gyrraedd, ac roedd oedi o 13 munud cyn i hofrennydd gyrraedd.

‘Gwersi i’w dysgu’

 

Ond dywedodd arbenigwr meddygol nad oedd “siawns realistig” y byddai Jasmine wedi goroesi hyd yn oed pe bai’r alwad wedi cael ei hateb o fewn y targed o wyth munud.

Adeg ei marwolaeth, dim ond 55-59% o alwadau brys oedd wedi cael eu hateb o fewn yr amser targed.

Wrth gofnodi’r rheithfarn ddoe, dywedodd y crwner Nicola Jones na ellid fod wedi achub y ferch fach, ond bod gwersi i’w dysgu o’i marwolaeth.

Bydd hi’n anfon adroddiad at y Gwasanaeth Ambiwlans yn galw arnyn nhw i wella eu hymateb i achosion brys.

‘Cyflwyno gwelliannau’ – Y Gwasanaeth Ambiwlans

Mewn datganiad, dywedodd Prif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Tracy Myhill: “Mae’r hyn ddigwyddodd i Jasmine yn drasiedi lwyr ac mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad gyda Mr a Mrs Lapsley o hyd.

“Gwyddom fod nifer o bethau y gallem fod wedi’u gwneud yn wahanol, yn ystod ac ar ôl y digwyddiad, ac am hynny rydym yn wirioneddol flin.

“Tra ein bod ni eisoes wedi gwneud nifer o welliannau ers marwolaeth drasig Jasmine – fel y dull rydym yn ei ddefnyddio i drin plentyn y mae ei bibell wynt mewn perygl – fe wyddom fod gwaith i’w wneud o hyd.”

Mae’r mesurau sydd wedi’u cymryd eisoes yn cynnwys creu model newydd ar gyfer ymatebion brys, a lansio cynllun peilot ar y cyd â Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd i wella gwasanaethau.

‘Annerbyniol’

 

Ychwanegodd Tracy Myhill fod y broses o roi timau achub ar waith wedi gwella ers y digwyddiad, a bod y Gwasanaeth Ambiwlans yn sylweddoli bod “angen adolygu ein perthynas gyda’n cydweithwyr yn y gwasanaethau brys”.

Cyfaddefodd hi nad oedd eu hymdriniaeth â theulu Jasmine yn dda “gan achosi mwy o loes a gofid” iddyn nhw wedi ei marwolaeth.

“Mae hyn yn annerbyniol,” meddai, “ac rwyf wedi cyfarfod yn bersonol â Mr a Mrs Lapsley i ymddiheuro am hyn ac wedi pwysleisio bod fy nrws ar agor iddyn nhw unrhyw bryd.”

Ychwanegodd y byddai’r Gwasanaeth Ambiwlans yn craffu ar ymateb y crwner er mwyn ymdrin ar frys ag unrhyw faterion sydd heb gael sylw hyd yn hyn.