Carwyn Jones a Nigel Farage
Bu dadlau tanbaid ym Mae Caerdydd neithiwr wrth i Brif Weinidog Cymru ac arweinydd UKIP fynd benben â’i gilydd ynglŷn â dyfodol aelodaeth y DU fel rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

Fe gychwynnodd y ddadl neithiwr yng Nghanolfan y Mileniwm rhwng Carwyn Jones a Nigel Farage. Caiff y ddadl hon ei hystyried fel y ddadl fawr gyntaf cyn y refferendwm a fydd i’w chynnal rhywbryd cyn pen diwedd 2017.

Roedd ffocws y ddadl ar yr economi, gyda Nigel Farage yn honni y byddai aros yn yr UE yn bygwth miloedd o swyddi yn y diwydiant dur, fel Tata yn ne Cymru.

Ond, fe ddywedodd Carwyn Jones nad oedd hynny’n wir, ac y byddai gadael yr UE yn “drychinebus” i Gymru am fod 200,000 o swyddi  yn dibynnu ar fasnachu gyda gwledydd yr UE.

“Mae’r UE yn un o farchnadoedd mwya’r byd. Pam ar y ddaear y byddem ni am beryglu gadael y farchnad honno?” meddai Carwyn Jones.

Ond, fe ddywedodd Nigel Farage ei fod am weld y DU yn “sefyll ar ein pennau ein hunain ar lwyfan y byd ac ailgysylltu â’r Gymanwlad ac eraill.”

Mewnfudo

Fe awgrymodd y Prif Weinidog, David Cameron, y gellid disgwyl y refferendwm cyn yr haf pe byddai’n llwyddo i gyrraedd cytundeb gydag arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd.

“Nawr, yn fwy nag erioed, mae’n amser inni weithio gyda’n gilydd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol,” meddai Carwyn Jones yn ei ddadl.

Mater arall o dan sylw neithiwr oedd mewnfudo, gyda Nigel Farage yn credu y dylid rheoli ffiniau.

“Mae mewnfudo diderfyn o’r UE wedi gostwng ein cyflogau,” meddai.

‘Hawlio’r ddadl?’

Wrth ymateb i’r ddadl neithiwr, fe ddywedodd Eluned Parrott, AC y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig na allai’r un o’r gwleidyddion ddweud eu bod wedi hawlio’r ddadl.

“Daeth yr un ohonyn nhw ohoni yn dda iawn.

“Roedd Carwyn Jones yn iawn i ddadlau dros bwysigrwydd y DU i aros yn yr UE. Ond eto, roedd ei olygon yn hollol wrthgyferbyniol i’w blaid yn Llundain, lle mae Jeremy Corbyn yn parhau yn amwys ar y mater pwysig hwn.”