Mae’r digrifwr Tudur Owen wedi ei anafu tra ar wyliau sgïo.

Un o gyflwynwyr rhaglen Heno, Gerallt Pennant, sy’n cyflwyno sioe arferol Tudur Owen ar Radio Cymru y prynhawn yma.

Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru wrth golwg360: “Mae Tudur Owen wedi syrthio wrth sgïo ac yn edrych ymlaen at ddychwelyd i Radio Cymru cyn bo hir. Ry’ ni’n dymuno gwellhad buan iddo.”

Un arall o gyflwynwyr Heno, Elin Fflur, fydd yn cyflwyno sioe Tudur Owen yfory.