Taron Egerton
Fe fydd Taron Egerton yn cystadlu yn erbyn seren y ffilm newydd Star Wars John Boyega ac actores Fifty Shades Of Grey Dakota Johnson ar gyfer un o wobrau’r Baftas fis nesaf.

Fe ymddangosodd y Cymro fel prif gymeriad y ffilm Kingsman: The Secret Service llynedd ochr yn ochr â Colin Firth, ac ers hynny mae wedi ymddangos mewn ffilmiau fel Legend, am yr efeilliaid Kray.

Cafodd yr actor o Aberystwyth ei gynnwys ar restr fer Gwobr Seren Addawol EE fydd yn cael ei chyflwyno ar y noson, yn ogystal â’r actorion Brie Larson a Bel Powley.

“Dw i mor ddiolchgar i BAFTA a’r rheithgor am fy enwebu i,” meddai Taron Egerton.

“Dw i’n teimlo’n ffodus iawn mod i wedi cael fy ystyried ar gyfer Gwobr Seren Addawol EE ymysg ymgeiswyr mor dalentog. Mae’n fraint enfawr i gael fy ystyried ar gyfer y wobr nodedig hon.”

Pleidlais

Y wobr ar gyfer y seren fwyaf addawol ym myd ffilm fydd yr unig un yn y Baftas ble mae’r cyhoedd yn gallu pleidleisio dros yr enillydd.

Mae cyn-enillwyr y wobr yn cynnwys James McAvoy, Kristen Stewart, Tom Hardy a Jack O’Connell.

Ym mis Chwefror fe fydd Taron Egerton yn cael ei weld yn chwarae rhan Eddie ‘The Eagle’ Edwards mewn ffilm am fywyd y sgïwr naid adnabyddus, sydd hefyd yn cynnwys Hugh Jackman.