Mae un person wedi marw wedi gwrthdrawiad ar ffordd A449 yn Sir Fynwy.

Mae’r ffordd ynghau i’r de wedi’r gwrthdrawiad rhwng yr A40 (Rhaglan) a’r A472 (Brynbuga).

Mae traffig yn cael ei ddargyfeirio ac mae parafeddygon yn dal ar y safle.