Chelsey Harris (Llun: Heddlu De Cymru)
Mae Heddlu De Cymru yn dweud eu bod nhw’n poeni am ferch 16 oed sydd wedi bod ar goll ers Nos Galan.

Does neb wedi gweld Chelsey Harris o Abertawe ers tua 12.30yp brynhawn dydd Iau.

Bryd hynny, roedd hi’n gwisgo trenyrs du a phinc am ei thraed, jins denim, a thop du.

Mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un sy’n gwybod lle mae Chelsey, i gysylltu ar y rhif, 101.