Rhybuddion yn ardal Llangollen
Mae dwy ardal yng Nghymru’n wynebu rhybuddion coch am lifogydd heddiw, gyda rhagor o law a thywydd stormus tros y ddeuddydd nesa’.
Yn ardal Llangollen, mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n rhybuddio y gallai afon Dyfrdwy orlifo ac mae llanw uchel yn debyg o greu problemau yn Ninbych y Pysgod.
Coch yw’r ail lefel gwaetha’ ac mae 24 o ardaloedd ar draws y wlad yn wynebu rhybuddion oren.
Rhan o’r broblem, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, yw fod y ddaear eisoes yn wlyb.