Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cyhoeddi eu bod wedi penodi Prif Weithredwr newydd.

Gary Doherty yw Prif Weithredwr Ysbytai Addysgu Ymddiriedolaeth y Gwasanaeth Iechyd yn Blackpool ar hyn o bryd ac mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn dweud bod ganddo brofiad o wella gwasanaethau iechyd yn Lloegr.

Dywedodd y Bwrdd Iechyd hefyd ei fod wedi “arwain ar raglenni arbed costau” ac wedi “gwella profiadau cleifion a staff”.

Mae trafodaethau ar y gweill ar hyn o bryd i gytuno ar ddyddiad cychwyn ei rôl newydd.

Mesurau arbennig

Ym mis Hydref eleni, ymddiswyddodd yr Athro Trevor Purt fel Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, ac mae bellach wedi derbyn swydd ym maes iechyd yn Lloegr.

Mae’r Bwrdd Iechyd yn parhau i fod o dan “fesurau arbennig”, a hynny am ddwy flynedd wedi i Lywodraeth Cymru gynnal ymchwiliadau i’w wasanaethau ym mis Mehefin.

Codwyd amheuon am arweinyddiaeth y Bwrdd, a’r pryder am ofal ar ward iechyd meddwl Tawel Fan, yn Ysbyty Glan Clwyd.

‘Adennill ffydd cleifion, staff a’r cyhoedd’

Yn dilyn y penodiad, dywedodd Dr Peter Higson, cadeirydd y bwrdd ei fod yn hyderus y bydd Gary Doherty yn “adeiladu ar y gwelliannau” mae Simon Dean, y prif weithredwr dros dro wedi’i wneud “mewn ymateb i’r Bwrdd yn cael ei roi mewn mesurau arbennig”.

“Bydd yn sicrhau y bydd yn adennill ffydd a hyder ein cleifion, staff a’r cyhoedd,” ychwanegodd.

“Mae ganddo’r sgiliau a’r nodweddion rydym yn chwilio amdanynt ac sydd mor bwysig mewn Prif Weithredwr, ac o ran y Bwrdd, rwy’n ei groesawu’n gynnes i Ogledd Cymru.”

‘Braint’

 

Dywedodd Gary Doherty bod y Bwrdd yn wynebu “nifer o heriau.”

“Rwy’n gwybod bod gennym nifer o gryfderau i adeiladu arnynt. Bydd yn fraint cael y cyfle hwn i arwain ein sefydliad i fodloni anghenion cleifion yn well yng Ngogledd Cymru,” meddai.

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r Bwrdd i symud rhai o’r gwelliannau sydd eisoes ar y gweill ymlaen dan Fesurau Arbennig.

“Fy mhrif ffocws fydd gwrando ar leisiau cleifion, staff, y cyhoedd a phartneriaid i wneud gwelliannau’n gyflym tra hefyd yn adeiladu gweledigaeth hir dymor ar gyfer y dyfodol.”

‘Newid agwedd’

 

Wrth ymateb i’r datganiad dywedodd Llŷr Gruffydd, AC Plaid Cymru dros y rhanbarth: “Rwy’n croesawu’r apwyntiad, ac yn gobeithio y daw hyn ag arweiniad a sefydlogrwydd i’r Bwrdd Iechyd, sydd wedi bod o dan warchae dros y blynyddoedd diwethaf.

“Y peth pwysicaf i arweinyddiaeth lwyddiannus yw’r gallu i wrando, ac rwy’n mawr obeithio y bydd apwyntiad Gary Doherty hefyd yn dod a newid agwedd ar frig y Bwrdd Iechyd, ac y byddan nhw’n fwy parod i wrando ar anghenion a phryderon trigolion gogledd Cymru.

“Gobeithiaf hefyd y bydd yn cymryd natur unigryw gogledd Cymru i ystyriaeth. Mae ein hanghenion ni yma yn wahanol iawn i anghenion pobl sy’n byw mewn ardaloedd dinesig a phoblog, a dylai ein gofal iechyd adlewyrchu hyn.”