Mae Dathlu’r Gymraeg, sy’n cynrychioli 20 o fudiadau iaith, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ail-ystyried y toriadau arfaethedig i gyllideb yr iaith Gymraeg.

Cyhoeddwyd y Gyllideb ddrafft yr wythnos ddiwethaf, a oedd yn dangos y bydd y Gymraeg yn derbyn tua £2m yn llai o arian ar gyfer hybu’r iaith yn y gymuned ac ar gyfer Comisiynydd y Gymraeg, yn 2016/17.

Bydd y gyllideb i’r Gymraeg felly yn gostwng o £8.6m i £6.9m, sy’n doriad o 19% ar gyfer prosiectau i hyrwyddo’r Gymraeg.

‘Dangos diffyg cefnogaeth’

“Mae’n golled sylweddol yn yr arian ar gyfer hybu’r Gymraeg ac mae wedi dod fel sioc fawr i ni,” meddai Penri Williams, cadeirydd Dathlu’r Gymraeg wrth raglen y Post Cyntaf.

“Mae’n dangos (y toriad) bod ‘na ddiffyg cefnogaeth yn rhywle o fewn y Llywodraeth i gefnogi’r iaith.”

Yn ôl y mudiad, mae’r Llywodraeth wedi “ystyried neilltuo £1.2m” o gyllidebau eraill ond maen nhw’n dweud nad yw’r cynnig hwn yn eglur ac na fyddai’n ddigon i gynnal y gwaith i hyrwyddo’r Gymraeg.

Eisiau gweld 1% yn cael ei fuddsoddi ar y Gymraeg

Mae Dathlu’r Gymraeg am weld y Llywodraeth yn mabwysiadu “targed hir dymor” ar gyfer buddsoddi yn y Gymraeg, gan alw arni yn ei faniffesto i fuddsoddi 1% o gyllideb Cymru mewn mentrau sy’n hybu’r iaith.

Maen nhw am weld y gwariant yn cyrraedd rhywbeth tebyg i’r hyn sy’n cael ei wario yng Ngwlad y Basg i hyrwyddo ei hiaith, a oedd yn £84miliwn (1% o’i chyllid) yn 2014.

Ar hyn o bryd, amcangyfrif bod y Llywodraeth yn gwario tua 0.16% ar y Gymraeg.

“Fel iaith leiafrifol, mae angen sicrwydd a sefydlogrwydd dros gyfnod eithaf hir er mwyn cynllunio a gallu cael canlyniadau. Er enghraifft, mae’n anodd gweld sut allai Comisiynydd y Gymraeg weithredu’n annibynnol yn effeithiol os yw’r toriadau yn parhau,” ychwanegodd Penri Williams.

“Wrth reswm, mae cryn bryder o ran gallu’r Llywodraeth i gyflawni eu hamcanion o ran y Gymraeg, os oes toriadau o’r fath yn digwydd. Yn wir, mae’n anodd gweld sut mae’r gyllideb yn bodloni ymrwymiad y Llywodraeth i sicrhau ffyniant y Gymraeg.”

‘Gorfod gwneud penderfyniadau anodd’

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Ers 2010 mae cyllideb Llywodraeth Cymru wedi’i thorri’n sylweddol, ac mewn termau real fe welwn fwy o doriadau yn ystod y blynyddoedd nesaf yn sgil Adolygiad Llywodraeth y DU o Wariant.

“Rydyn ni wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd mewn sawl maes er mwyn rhoi blaenoriaeth i’r gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu fwyaf arnyn nhw, gan wneud cymaint ag y gallwn ar yr un pryd i leihau effeithiau’r toriadau yn ein cyllideb mewn meysydd eraill.