Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru
Mae angen i wasanaethau cyhoeddus newid yn llwyr er mwyn iddyn nhw allu ateb yr heriau sy’n eu hwynebu nawr ac yn y dyfodol, yn ôl adroddiad diweddaraf Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Mae’r adroddiad am y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn nodi fod “cynnydd” wedi’i wneud, ond bod y newidiadau hirdymor a radical sydd ei angen yn “rhy araf o hyd.”

Wrth gyhoeddi’r adroddiad, Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2015, pwysleisia Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas, fod toriadau wedi wynebu’r gwasanaethau, ond bod “cynnydd” wedi’i wneud mewn ambell sector hefyd.

Esboniodd mai’r pum mlynedd diwethaf fu’r “cyfnod hiraf o doriadau parhaus mewn termau real ers datblygu’r wladwriaeth les fodern ar ôl yr Ail Ryfel Byd.”

Bu gostyngiad o £1.2 biliwn mewn termau real yn y cyllid ar gyfer gwasanaethau datganoledig rhwng 2010-11 a 2014-15, ac mae’r adroddiad yn nodi fod Cymru wedi gwneud rhai dewisiadau gwario gwahanol i rannau eraill o’r DU.

“Mae toriadau pellach yn ffaith”, meddai’r Archwilydd gan ddweud fod “rhaid edrych am ffyrdd i ymateb i heriau sy’n eu hwynebu nawr ac yn y dyfodol.”

Huw Vaughan Thomas yn trafod y canfyddiadau ar iechyd yn yr adroddiad:

‘Ansicrwydd ffurf llywodraeth leol’

Mewn ymateb i’r adroddiad, fe fynegodd Darren Millar AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol, ei bryder nad yw’r cynghorau sir wedi gallu rhoi nifer o’r newidiadau ar waith.

Fe ddywedodd ei fod yn “siomedig bod yr ansicrwydd ynghylch ffurf llywodraeth leol yn y dyfodol wedi atal cynghorau yng Nghymru rhag rhoi newidiadau sylweddol ar waith.”

“Bydd angen i wasanaethau cyhoeddus ymateb i’r negeseuon pwysig y mae’r Archwilydd Cyffredinol yn eu nodi yn yr adroddiad a chynyddu cyflymder a graddau’r newidiadau y maent yn eu gwneud er mwyn sicrhau bod ganddynt sylfaen gynaliadwy.

‘Rhwystrau i’w goresgyn’

Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn nodi fod y Gwasanaeth Iechyd wedi gwella ansawdd eu gwasanaethau a’r cyfraddau goroesi canser, a bod cyrhaeddiad addysgol wedi gwella.

“Mae’n gadarnhaol fy mod yn gallu nodi, er gwaethaf y pwysau, fy mod yn gweld gwelliant mewn rhai agweddau ar lesiant, perfformiad gwasanaethau a rheolaeth ariannol,” meddai Huw Vaughan Thomas.

Er hyn, mae’r adroddiad yn nodi fod lefelau tlodi yn parhau i fod yn uchel yng Nghymru, gyda lefel yr allyriadau nwyon tŷ gwydr wedi cynyddu hefyd.

“Mae llawer o rwystrau i’w goresgyn o hyd cyn y gellir cyflawni’r nod o drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus yn gyfan gwbl er mwyn sicrhau eu bod yn gynaliadwy,” ychwanegodd yr Archwilydd.