Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi enw dyn 56 oed a gafodd ei ladd mewn gwrthdrawiad ar y M4 ger Casnewydd fore dydd Llun.

Bu farw Andre Murphy, a oedd yn cael ei adnabod fel Nick Murphy, o Sir Wexford, Iwerddon yn y yn fan a’r lle.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd tua 4.10yb bore dydd Llun, 14 Rhagfyr ger Parc Tredegar ar Gyffordd 28.

Cafodd dyn 45 oed o Ferthyr Tudful ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus. Mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliadau’r heddlu’n parhau.