Mae pryderon cynyddol na fydd rhai o gefnogwyr pêl-droed Cymru yn cael chwarae teg wrth brynu tocynnau ar gyfer gemau Ewro 2016.

Dyma’r tro cyntaf i Gymru gyrraedd y twrnament ers 1958, ac mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud bod yn rhaid sicrhau system “dryloyw a theg” fel nad oes unrhyw un yn cael mantais dros bobol eraill wrth geisio prynu tocynnau.

Yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies, mae wedi cael ‘llwyth’ o lythyrau gan gefnogwyr Cymru yn ei ranbarth, yn poeni  y bydd pobol sydd â thocyn tymor yn barod yn cael eu ‘rhwystro’ rhag prynu tocynnau.

Mae pryderon hefyd bod rhai cefnogwyr yn elwa ar system o ffyddlondeb, sy’n gwobrwyo’r sawl sy’n prynu tocynnau ar gyfer gemau oddi cartref, heb fynd i’r gemau hynny.

System docynnau ‘annheg ac aneglur’

“Mae llawer o gefnogwyr yn bryderus y byddan nhw’n colli’r digwyddiad hanesyddol hwn o achos system docynnau y maen nhw’n teimlo sy’n annheg ac yn aneglur,” meddai Andrew RT Davies yn ei lythyr i Brif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Jonathan Ford.

Ac yn ôl llefarydd Chwaraeon y Ceidwadwyr Cymreig, mae tryloywder a thegwch y system o rannu tocynnau’n ‘hanfodol.’

“Does dim rhaid i chi fynd yn ôl yn rhy bell i gofio gemau allweddol yn cael eu chwarae y tu blaen i dorfeydd llai, ac mae’r newid yn ddiolch i bawb fu’n rhan (o’r ymgyrch),” meddai Mohammad Ashgar AC.

“Dyna pam ei bod hi’n hanfodol bod y system o rannu tocynnau ar gyfer yr haf mor dryloyw a theg a phosibl.”

‘Aelodau selog fydd yn cael y flaenoriaeth’

“Mae ein system ni yn gwbl glir ac yn agored,” meddai llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Dywedodd fod gan y Gymdeithas 14,000 o aelodau sydd wedi eu rhannu i adrannau Aur a Ieuenctid, ac fe fydd aelodau yn gallu ceisio am ddau docyn yr un.

“Yr aelodau sydd wedi bod yn fwyaf selog yn ein gemau cartref ac oddi cartref fydd yn cael y flaenoriaeth. Mae hynny’n gwbl eglur,” meddai’r llefarydd.