Mae Kirsty Williams wedi cadarnhau wrth Golwg360 y bydd hi a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn caniatáu i Lywodraeth Cymru basio ei chyllideb, er gwaethaf protestiadau gan ei chyngor sir ei hun.

Roedd dirprwy arweinydd Cyngor Powys, Wynne Jones, wedi cyhuddo’r toriadau diweddaraf o fod yn annheg gan ofyn i Aelodau Cynulliad y sir wrthwynebu’r gyllideb.

Ond fe ddywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, sydd yn cynrychioli etholaeth Brycheiniog a Maesyfed yn ne Powys, y byddai ei phlaid yn atal eu pleidlais ac felly’n caniatáu i Lywodraeth Cymru basio’u cynlluniau.

Mynnodd fodd bynnag ei bod hi’n parhau i ddadlau’r achos dros edrych eto ar gyllideb Powys, fydd yn cael ei thorri mwy nag unrhyw sir arall yng Nghymru yn ôl y cynlluniau diweddaraf.

‘Y ddau beth ar wahân’

Fe fydd Powys yn wynebu toriadau o 4.1% y flwyddyn nesa’ – bron £7 miliwn – tra bod y toriad ar gyfartaledd i’r holl siroedd yn ddim ond 1.4%.

Mynnodd cynghorwyr y sir y dylai Kirsty Williams a’i phlaid wrthwynebu cyllideb Llywodraeth Cymru felly oni bai bod gwahaniaeth hwnnw’n cael ei ailystyried, ond fe ddywedodd hi fod cyllideb y llywodraeth a chyllidebau’r cynghorau sir yn ddau fater gwahanol.

“Mae cydnabyddiaeth eang bod llywodraeth leol wedi dod allan ohoni’n well na’r disgwyl o Gyllideb Flynyddol Llywodraeth Cymru,” meddai Kirsty Williams wrth Golwg360.

“Fodd bynnag, mae fformiwla Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllido cynghorau, sydd yn rhywbeth ar wahân a ddim yn cael ei gynnwys yn y gyllideb, yn parhau i daro cymunedau gwledig yn galetach.

“Fe fydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru’n atal eu pleidlais ar y gyllideb er mwyn sicrhau nifer o flaenoriaethau gan gynnwys mwy o fuddsoddi mewn ysgolion ym Mhowys, £5.3m ychwanegol i wella ysbyty Llandrindod, a phont Dyfi newydd.”

Dal i holi

Pwysleisiodd Kirsty Williams bod y fformiwla oedd wedi penderfynu lefel toriadau’r cynghorau yn un annheg, a’i bod hi dal yn gobeithio perswadio’r Gweinidog Cyllid Jane Hutt i ailystyried y cyllidebau.

“Llynedd fe gyflwynodd Llywodraeth Cymru beth sy’n cael ei alw’n ‘llawr cyllido’ oedd yn amddiffyn cynghorau gwledig yn well,” meddai AC Brycheiniog a Maesyfed.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi methu’n lan a chyflwyno llawr o’r fath eleni. Mae hwnnw’n benderfyniad anghywir.

“Dyw’r frwydr dros fargen well i’n cymunedau lleol ddim drosodd, gan fod y setliad i’r cynghorau dal yn ei ffurf ddrafft.”