Mae mwy na 49,000 o sigarennau, 60 cilo o dybaco ‘rholio â llaw’ ynghyd ac alcohol anghyfreithlon, wedi’i ganfod mewn dau ddiwrnod yn ne Cymru.  

Ddydd Mercher a dydd Iau yr wythnos hon (Rhagfyr 9 a 10) fe ymwelodd tua 15 s
Peth o'r cynnyrch (Llun: Heddlu De Cymru)
wyddog o Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM), gyda chymorth gan y Tîm Cŵn Canfod Tybaco, â 19 safle busnes yn cynnwys uned hunan-storio, siopau masnach a thŷ tafarn yn ardaloedd Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd, Abertawe, Llanelli, Rhydaman a Llanbedr Pont Steffan.

Fe gafodd tybaco ac alcohol anghyfreithlon eu cymryd o dri safle – dau yn Abertawe ac un yn Llanbedr Pont Steffan. Ymysg y cynnyrch anghyfreithlon, roedd:

* 49,200 o sigarennau, gydag amcangyfrif o £15,793 wedi ei osgoi mewn tollau a TAW

* 60 cilo o dybaco ‘rholio â llaw’, gydag amcangyfrif o £ 14, 640 wedi ei osgoi mewn tollau a TAW

* 7.3 litr o alcohol, gydag amcangyfrif o £95 wedi ei osgoi mewn tollau a TAW

Dywedodd Colin Spinks, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Gwasanaeth Ymchwiliadau i Droseddau, CThEM:

“Yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig, efallai y bydd pobl yn cael eu temtio i brynu tybaco ac alcohol rhad. Mae’r farchnad alcohol a thybaco anghyfreithlon, fodd bynnag, yn costio tua £3.3 biliwn y flwyddyn i’r DU. Dwyn oddi wrth y trethdalwr yw hyn, ac mae’n tanseilio masnachwyr cyfreithlon.”