Fydd y gêm rhwng Caergybi a Bangor yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru ddim yn cael ei dangos yn fyw ar y teledu, a hynny oherwydd pryderon am wyntoedd cryfion.

Roedd Sgorio wedi bwriadu dangos yr ornest rhwng y ddau dîm yn fyw ar S4C yn eu slot arferol ar brynhawn Sadwrn.

Ond mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC), S4C a chwmni teledu Rondo nawr wedi penderfynu y byddan nhw’n dangos y gêm rhwng Y Seintiau Newydd ac Aberystwyth yn lle hynny.

Hon fyddai wedi bod y tro cyntaf erioed i gêm bêl-droed ar Ynys Môn gael ei darlledu’n fyw ar y teledu, yn ôl CBDC.

Y tywydd yn drech

Cafodd y penderfyniad i symud darllediad Sgorio o Gaergybi i Groesoswallt yn dilyn pryderon ynglŷn â gwyntoedd cryfion dros y penwythnos a’r perygl y gallai hynny fod wedi’i achosi i’r camerâu fyddai’n ffilmio’r gêm.

Bydd gêm Caergybi a Bangor dal ymlaen gyda’r gic gyntaf am 5.15yp, cyn belled bod glaw trwm dros nos heb amharu’n ormodol ar dir y chwarae.

Mae cic gyntaf yr ornest rhwng y Seintiau ac Aberystwyth bellach wedi cael ei symud o 2.30yp i 5.15yp er mwyn ei dangos yn fyw ar y teledu.

“Mae’n siomedig bod yr elfennau wedi ein trechu ni,” meddai Pennaeth Cystadlaethau CBDC Andrew Howard wrth drafod y penderfyniad i symud y camerâu.

“Rydyn ni wedi monitro’r rhagolygon tywydd drwy gydol yr wythnos a gyda disgwyl bod gwyntoedd yn gyson dros 40mya ddydd Sadwrn yng Nghaergybi, yn anffodus dyw hi ddim yn saff darlledu’r gêm o’r strwythur dros dro.”

32 tîm ar ôl

Bydd uchafbwyntiau o gemau trydedd rownd Cwpan Cymru hefyd yn cael eu dangos ar raglen Clwb dydd Sul.

Rownd Tri Cwpan Cymru

Nos Wener

Port Talbot v Cambrian & Clydach (19.30)

Dydd Sadwrn

Caerau Ely v Corries Aberhonddu (13.30)

Cwmaman Utd v Cegidfa (13.30)

Goytre v Caernarfon (13.30)

Afan Lido v Treffynnon (14.30)

Tref Barri v Tref Dinbych (14.30)

Met Caerdydd v STM Sports (14.30)

Caerfyrddin v Bala (14.30)

Derwyddon Cefn v Rhyl (14.30)

Tref Fflint v Drenewydd (14.30)

Hwlffordd v Airbus UK (14.30)

MBi Llandudno v Tref Bwlce (14.30)

Penrhyn-coch v Cwmbrân Celtic (14.30)

Prestatyn v Gap Cei Connah (14.30)

Caergybi v Bangor (17.15)

Y Seintiau Newydd v Aberystwyth (17.15)