Meirion Prys Jones
Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am ddirywiad yr iaith Gymraeg yn ei chadarnleoedd yn codi cwestiynau am Blaid Cymru ar lefel llywodraeth leol, yn ôl cyn-Brif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

Wrth drafod yr adroddiad diweddara’ sy’n dangos lleihad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yng ngorllewin Cymru, mae Meirion Prys Jones yn dweud bod cyfle i wyrdroi’r sefyllfa ar lefel cynghorau sirol yn Y Fro Gymraeg.

Plaid Cymru sydd mewn grym ar Gyngor Gwynedd, maen nhw’n arwain clymbleidiau ar gynghorau Sir Caerfyrddin a Cheredigion ac mae ganddyn nhw 12 o’r 30 sedd ar Gyngor Môn.

Ac yn ôl cyn-Brif Weithredwr Bwrdd yr Iaith, mae modd i Blaid Cymru gydweithio ar gynghorau’r Gorllewin er mwyn adfer sefyllfa’r Gymraeg yno.

Nifer y siaradwyr Cymraeg rhugl yn gostwng

Yn ôl adroddiad Y Defnydd o’r Gymraeg yng Nghymru, 2013-15, a gafodd ei lunio gan Lywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg ar sail holi 7,200 o bobol, mae nifer y siaradwyr Cymraeg rhugl yn Sir Gaerfyrddin wedi gostwng 2,000 ers 2004-06.

Yn yr un cyfnod bu gostyngiad o 2,100 yng Ngwynedd, 2,600 ym Môn a 600 yng Ngheredigion.

Bu cynnydd o 7,100 yn nifer y siaradwyr Cymraeg rhugl yng Nghaerdydd a chynnydd o 1,600 drwyddi draw yng Nghymru.

Ond yn ôl yr arbenigwyr, mae colli siaradwyr yn y cadarnleoedd yn golygu ei bod yn marw fel iaith sy’n cael ei siarad bob dydd.

‘Beth mae Plaid yn ei wneud i hyrwyddo’r Gymraeg?’

Yn ôl Meirion Prys Jones, mae gan Blaid Cymru gyfle, gyda’r holl sôn am ad-drefnu

cynghorau sir, i ddylanwadu ar sefyllfa’r Gymraeg yn ei chadarnle.

“Os edrychwch chi ar y data, mae gynnoch chi’r ganran uchaf o siaradwyr yn siroedd Caerfyrddin, Ceredigion, Gwynedd, Môn a Chonwy.

“Hynny yw, maen nhw’n ryw fath o ardaloedd lle mae Plaid Cymru yn eithaf cryf… ac mae’n gofyn y cwestiwn ynglŷn â beth mae Plaid Cymru wedi ei wneud yn yr ardaloedd yna i hyrwyddo’r Gymraeg… os oes gynnoch chi gymaint o rym Plaid Cymru mewn llywodraeth leol, be’ maen nhw’n wneud?

“Mae’n gwestiwn ar lefel hyrwyddo’r Gymraeg yn ymarferol.”

Gallwch ddarllen rhagor am y stori hon gan Barry Thomas yn rhifyn Golwg yr wythnos hon.