Suzy Davies
Mae dyfodol stiwdios deledu yn ne Cymru, a oedd wedi rhoi prydles i gwmni teledu o America ffilmio yno, yn parhau i fod yn ansicr.

Ym mis Medi, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai cwmni Fox 21 yn dod i yn dod i Stiwdios Rhyngwladol Dragon, neu ‘Valleywood’, ym Mhencoed ger Llanilid.

Y bwriad oedd y byddai’r cwmni’n ffilmio’r gyfres deledu, The Bastard Executioner yno. Ond bellach, ni fydd hynny’n digwydd â’r cynhyrchwyr eisoes wedi cyhoeddi diwedd y gyfres.

“Er ei fod yn newyddion trist bod Bastard Executioner wedi’i ganslo, mae’r diwydiannau creadigol yng Nghymru yn parhau i fod mewn sefyllfa gadarn iawn,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

Galw am esboniad

Mae Llefarydd Diwylliant y Ceidwadwyr Cymreig, Suzy Davies AC, wedi galw am ‘esboniad cliriach’ a ‘manylion pellach’ am fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y prosiect.

“Mae trethdalwyr Cymru yn haeddu mwy o wybodaeth am y cyllidebau sy’n cael eu rhoi i brosiectau tebyg i hyn, fel y gallan nhw benderfynu a yw’n llwyddiant, yn fethiant ac yn werth am arian.”

Fe esboniodd fod Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £30 miliwn i ddiwydiant y cyfryngau yng Nghymru, ac mae’n galw am fanylion pellach am sut caiff yr arian ei ddosbarthu i wahanol brosiectau.

“Os ydych chi’n barod i osod stiwdio i gymeradwyaeth fawr, mae’n rhaid i chi hefyd fod yn barod i esbonio beth sy’n digwydd pan mae pethau’n mynd o chwith,” meddai.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mewn ymateb i’r sylw na fydd Fox 21 yn dod i Bencoed, fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y diwydiant creadigol yng Nghymru yn “parhau i fod mewn sefyllfa gadarn iawn.”

Esboniodd fod rhaglen beilot y gyfres gyntaf wedi’i ffilmio yng Nghymru, ac mae’r “buddsoddiad sylweddol a wnaed gan Fox yn Dragon Studios yn dangos bod ei ddyfodol yn un hir a hyfyw.”

Fe ychwanegodd y llefarydd fod “rhestr hir a chadarn o brosiectau yn edrych ar Gymru fel lleoliad ar gyfer ffilmio. Yn eu plith y mae cynhyrchiad diweddaraf Bad Wolf Productions, His Dark Materials”.

Sefydlwyd y cwmni Dragon Rhyngwladol (‘Valleywood’) gyda’r gobaith o greu 2,000 o swyddi – ond fe aeth i’r wal yn 2008.

Cadeirydd y fenter ar y pryd oedd y cyfarwyddwr ffilmiau, yr Arglwydd Richard Attenborough.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gydweithio â chwmni ariannol Price Waterhouse Coopers i gael prydles ar y stiwdios wedi hynny.