Mae dyn 25 oed wedi cael ei arestio yn dilyn damwain ddifrifol ym Mlaenau Gwent wythnos diwethaf.

Roedd dau gar wedi bod mewn gwrthdrawiad ar Ffordd Cwm yn Aber-big tua 9.55 bore dydd Gwener.

Cafodd gyrrwr anafiadau difrifol a’i gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd lle mae mewn cyflwr sefydlog, meddai Heddlu Gwent.

Mae gyrrwr y car arall, sy’n dod o Dredegar, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o yfed a gyrru ac achosi anafiadau difrifol drwy yrru’n beryglus.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni wedi’r ddamwain ond cafodd ei ryddhau’n ddiweddarach ac mae bellach yn cael ei gadw yn y ddalfa.