Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r newyddiadurwraig Siân Pari Huws, sydd wedi marw’n 55 oed.

Roedd hi wedi bod yn dioddef o ganser.

Yn ystod ei gyrfa, a barodd bedwar degawd, hi oedd un o leisiau amlycaf Radio Wales fel cyflwynydd rhaglenni Good Morning Wales a Good Evening Wales.

Hi hefyd oedd llais darllediadau Radio Wales o Faes yr Eisteddfod.

Roedd hi hefyd yn gyfrannwr cyson i raglenni Radio 3.

Roedd ei rhaglen olaf yn olrhain taith Cerddorfa BBC Cymru i Batagonia.

Mae hi’n gadael partner, Geraint, ei mam Eira a’i brodyr Alun a Geraint.

Teyrngedau

Mae teyrngedau wedi’u rhoi gan nifer o’i chydweithwyr yn y byd darlledu, gan gynnwys y cyn-newyddiadurwr ac Aelod Cynulliad Plaid Cymru ym Môn, Rhun ap Iorwerth.

Ar ei dudalen Twitter, dywedodd: “Fy nghalon yn drwm iawn, iawn. Colli Sian Pari Huws yn ergyd fawr. Fy nghofion annwylaf at Geraint a’i theulu oll. Cyfaill, mentor. Y gorau.”

Dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies: “Trist iawn clywed am farw Sian Pari Huws – un a chyfranodd yn ddiflino i ddarlledu Cymreig. Cymdeimladau dwysaf â’i theulu.”

Mewn datganiad, ychwanegodd: “Roedd angerdd Siân am Gymru, a’i phobl a’i diwylliant cyfoethog yn disgleirio trwy ei gwaith.

“Roedd yn newyddiadurwr nad oedd ofn codi gwrychyn, ond yn gefnogwr brwd i’n celfyddydau ac i’n iaith.

“Byddwn yn colli ei chynhesrwydd, ei hiwmor a’i chwilfrydedd diddiwedd.

“Mae ein cofion a’n cydymdeimlad dwysaf wrth gwrs gyda’i theulu heddiw.”

‘Holwraig braff a chadarn’

Dywedodd Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru, Sian Gwynedd: “Mi wnaeth Siân gyflwyno nifer fawr o raglenni i BBC Cymru a be sy’n taro rywun ydi’r amrywiaeth  a’r gallu oedd ganddi i droi ei llaw mor rhwydd at wahanol feysydd, a hynny yn y ddwy iaith – o raglenni am gerddoriaeth glasurol a’r gerddorfa ar Radio Cymru a Radio 3, i ddarlledu uchafbwyntiau o’r Eisteddfod Genedlaethol  ar Radio Wales.

“Ond dwi’n credu mai am safon ei newyddiaduraeth y bydd hi’n cael ei chofio yn bennaf.

“Roedd yn holwraig braff a chadarn, mi oedd hi yr un mor gyfforddus yn holi gwleidyddion amlwg ag yr oedd hi’n holi pobol ar y stryd ym Mangor.

“Mi wnaeth hi ennyn parch enfawr ymhlith y timau cynhyrchu fu’n gweithio hefo hi ac fe fyddan nhw yn cofio’n annwyl iawn amdani.

“Mae’n cofion ni fel cydweithwyr yn mynd at y teulu.”