Bydd y farchnad yn destun rhaglen gan Tudur Owen
Fe fydd marchnad bysgod newydd ym Môn yn agor ei drysau am y tro cyntaf ddydd Sul.

Cafodd marchnad bysgod Porthaethwy ei sefydlu fel menter gymunedol gan griw o drigolion y dref mewn ymgais i hybu cynnyrch lleol yr ynys.

Mae’r farchnad wedi’i lleoli mewn hen warws ar Bier y Tywysog, ac mi fydd ar agor rhwng 11yb a 2yp.

Mae’r fenter wedi’i chefnogi gan Fenter Môn.

Bydd y farchnad yn cael sylw ar raglen ddogfen newydd gan Tudur Owen ar S4C y flwyddyn nesaf.