Mae athrawes o Ysgol Uwchradd Llanidloes wedi cael ei gwahardd rhag dysgu, ar ôl ffugio bod yn ferch ysgol 13 oed wrth honni bod prifathro ysgol arall wedi ei cham-drin yn rhywiol.

Roedd Eleri Roberts, 32, sydd nawr yn defnyddio’r enw Eleri Edwards, wedi ffonio elusen Childline er mwyn gwneud yr honiadau yn erbyn Tudur Williams, Prifathro Ysgol Uwchradd Ardudwy, Harlech.

Fe wnaeth gyhuddo’r prifathro o’i “chyffwrdd mewn modd amhriodol” ym mis Tachwedd 2013, blwyddyn ar ôl iddi golli ei swydd yn yr ysgol.

Roedd hi erbyn hynny wedi cael swydd fel athrawes Fathemateg yn Ysgol Llanidloes.

‘Angen gwaharddiad er mwyn cadw ffydd yn y proffesiwn’

Fe wnaeth Cyngor Addysgu Cyffredinol ei gwahardd heddiw mewn cyfarfod. Roedd Eleri Roberts yn bresennol.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor dyfarnu, Richard Parry Jones, mai’r unig gosb addas oedd gwaharddiad gan y gallai fod wedi achosi niwed mawr i yrfa a bywyd personol un o’i chyd athrawon.

Ychwanegodd fod gan Eleri Roberts gefndir da yn y maes dysgu fel arall ac y byddai ganddi’r hawl i wneud cais i ail gofrestru fel athrawes ar ôl dwy flynedd.

Fe wnaeth Eleri Roberts ymddiheuro wrth Tudur Williams ond gwadodd ei bod wedi ffonio Childline, gan ddweud mai ei gŵr wnaeth hynny a’i bod yn ei ysgaru am hynny ymysg rhesymau eraill.