Fe fydd ‘cannoedd’ o bobol yn dod at ei gilydd yfory i alw am weithredu ‘cadarn’ dros newid hinsawdd yng Nghymru ac yng nghynhadledd y Cenhedloedd Unedig.

Mae ‘taith feicio dorfol’ yng nghanol dinas Caerdydd wedi cael ei threfnu a fydd yn teithio i’r Senedd yn y bae, cyn cynnal rali a galw ar lywodraethau’r byd i weithredu dros newid hinsawdd.

Bydd tua 50,000 o bobol yn ymgynnull ym Mharis rhwng 30 Tachwedd a 11 Rhagfyr ar gyfer cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar newid hinsawdd.

Mae ymgyrchwyr am weld ‘bargen fyd-eang deg’ yn deillio o’r gynhadledd a fydd yn mynd i’r afael â newid hinsawdd.

Rhybudd gan y trefnydd

“Mae’n rhaid i drafodaethau’r Cenhedloedd Unedig daro bargen fyd-eang deg ar weithredu ar yr hinsawdd, ac rydyn ni eisiau i lais Cymru gael ei glywed fel rhan o’r mudiad byd-eang dros newid,” meddai Haf Elgar, cadeirydd y grŵp Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru sy’n trefnu’r digwyddiad yng Nghaerdydd.

“Mae newid hinsawdd yn cael effaith enbyd ar draws y byd, ac mae’n bygwth llawer o bethau sy’n annwyl i ni.”

Bydd Bethan Jenkins o Blaid Cymru, Alun Davies o Lafur Cymru, William Powell o’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig a Pippa Bartolotti o Blaid Werdd Cymru yn annerch y dorf.

Hefyd bydd Cynfardd plant Cymru, Aneirin Karadog a’r bardd o Zimbabwe, Eric Charles yno hefyd a’r  comedïwr a’r darlledwr Dan Mitchell yn arwain y digwyddiad.