Mae dyn 28 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio dyn 36 oed yng Nghasnewydd neithiwr.

Cafodd Heddlu Gwent eu galw i dŷ yn Clarence Place yn y ddinas am 7.50yh nos Fawrth, 24 Tachwedd yn dilyn adroddiadau bod dau ddyn wedi cael eu trywanu.

Cafodd dau ddyn – y naill yn 36 oed a’r llall yn 28 oed – eu cludo i Ysbyty Brenhinol Gwent.

Bu farw’r dyn 36 oed yn ddiweddarach.

Mae dyn 28 oed yn cael ei holi yn y ddalfa ar amheuaeth o lofruddio.

Dydy’r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn perthynas â’r achos.