Mae Heddlu Gwent wedi derbyn rhybudd heddiw y gallan nhw wynebu toriadau rhwng 25%-40%  i’w cyllideb yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Mae disgwyl i’r Canghellor, George Osborne, gyhoeddi’r toriadau yn swyddogol yn Natganiad yr Hydref yfory.

Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi beirniadu’r toriadau arfaethedig – a hynny mewn “cyfnod o fygythiadau brawychol cynyddol.”

Fe ddywedodd Ian Johnston y byddai toriadau pellach i’r gyllideb yn effeithio ar allu’r llu i ymateb ac ymdopi ag ymosodiadau brawychol tebyg i’r un a gafwyd ym Mharis yn ddiweddar.

Serch hynny, mae disgwyl i Heddlu Gwent wneud arbedion o £65 miliwn erbyn 2021. Fe fydd y toriadau yn effeithio ar luoedd ar draws Cymru, gydag uwch swyddogion Heddlu’r Gogledd a Dyfed-Powys eisoes wedi derbyn rhybuddion tebyg ym mis Medi eleni.

‘Dim pris ar ddiogelwch’

“Byddai toriadau pellach i reng flaen yr heddlu yn greulon ac yn beryglus,” meddai Ian Johnston gan ddweud na allwch “roi pris ar ddiogelwch y cyhoedd.”

Fe esboniodd fod y Prif Weinidog, David Cameron, wedi cyhoeddi y bydd yn sicrhau buddsoddiad i wasanaethau diogelwch y wlad yn dilyn y bygythiadau diweddar.

“Ond dyw e ddim wedi sicrhau’r un ymrwymiad ar gyfer yr heddlu,” meddai Ian Johnston.

Yn ôl Heddlu Gwent, rhagwelir y bydd y llu yn colli 300 o swyddogion heddlu rhwng 2010 a 2018. Mae’r Comisiynydd yn cwestiynu sail resymegol y toriadau hyn gan bwysleisio fod gan yr heddlu “ran bwysig mewn ymchwilio a mynd i’r afael ag eithafiaeth mewn cymunedau lleol.”

“Mae pobl yn dweud wrthyf drwy’r amser eu bod nhw am weld mwy o swyddogion heddlu o gwmpas y lle – ond y gwir amdani yw bod y toriadau cyson yn golygu na fydd gymaint o heddlu i’w gweld hyd y lle yn y dyfodol,” esboniodd Ian Johnston.

“Dydw i ddim am godi bwganod, a dydw i ddim am i bobl fod yn ofnus”, meddai’r Comisiynydd cyn ychwanegu fod angen i’r Llywodraeth “ystyried yn ofalus effeithiau’r toriadau pellach ar yr heddlu.”