Trident
Fe fydd y Cynulliad ym Mae Caerdydd yn cynnal trafodaeth heddiw ar adnewyddu Trident, dadl sy’n cael ei gynnig gan Blaid Cymru sy’n gwrthwynebu’r arfau niwclear.

Elin Jones AC Plaid Cymru sydd wedi galw am y ddadl ac mae’n cynnig y dylai’r Senedd wrthwynebu unrhyw ymgais gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i adnewyddu Trident a chefnogi ‘ymdrechion rhyngwladol’ i ddileu arfau niwclear.

Mae’r blaid wedi disgrifio’r cynnig i adnewyddu Trident fel yr ‘ateb anghywir i’r cwestiwn anghywir.’

Yn ôl Plaid Cymru, y bygythiadau mwyaf sy’n wynebu pobol heddiw yw ymosodiadau brawychol, ymosodiadau seibr a rhyfela a bod Trident yn rhy ‘hen-ffasiwn’ i fynd i’r afael â’r bygythiadau hyn.

‘Trident ddim yn ein gwneud yn fwy diogel’

“Mae diogelwch ein cymunedau yn hollbwysig, ac ni fydd adnewyddu Trident  yn ein gwneud yn fwy diogel,” meddai Rhodri Glyn Thomas, Aelod Cynulliad Plaid Cymru.

“Byddai adnewyddu Trident yn anfoesol ar unrhyw adeg, ond mae natur y bygythiadau rydym yn wynebu yn tanlinellu mor ddiwerth ydyw.”

Mae Plaid Cymru yn honni y byddai’n costio dros £167 biliwn i fynd ymlaen â’r cynllun Trident ond mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd y ffigwr hwn yn debygol o fod rhwng £15 biliwn ac £20 biliwn.

Dywedodd Plaid Cymru y byddai’n galw am yr arian i gael ei gyfeirio at ‘ymdrechion i amddiffyn ein cymunedau, mynd i’r afael a radicaleiddio, ac i weithio gyda chynghreiriaid y DU drwy ymdrechion dyngarol rhyngwladol dros heddwch a chymod.’

‘Hanfodol i sicrhau diogelwch cenedlaethol’

Ar y llaw arall, fe fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn dadlau’n gryf dros adnewyddu Trident, gyda Paul Davies AC yn dweud ei fod yn ‘hanfodol i sicrhau diogelwch cenedlaethol.’

Llafur yn adolygu ei pholisi amddiffyn

Mae’r ddadl hefyd wedi hollti barn y Blaid Lafur wrth iddi baratoi i adolygu ei pholisi amddiffyn.

Cyn-faer Llundain, Ken Livingstone fydd yn cyd-gadeirio’r grŵp sy’n gyfrifol am adolygu’r polisi, gyda’r ysgrifennydd amddiffyn cysgodol, Maria Eagle.

Mae’r ddau yn anghytuno ar y ddadl ynghylch Trident, gyda Ken Livingstone yn rhannu’r un farn â Jeremy Corbyn sy’n gwrthwynebu’r cynllun i wario £167 biliwn ar adnewyddu arfau niwclear y Deyrnas Unedig.

Ac mae’r Aelod Seneddol Llafur dros Orllewin Casnewydd, Paul Flynn hefyd yn ‘hollol yn erbyn’ Trident.

“Mae’n wastraff arian, yn symbol statws di-werth,” meddai wrth golwg360 gan ychwanegu hefyd mai ‘rhywbeth i’r gorffennol’ yw Trident nid i’r dyfodol.

Mae’n dadlau ei fod yn bwnc sydd wedi hollti pob plaid wleidyddol, nid y blaid Lafur yn unig.

“Mae rhaniadau ymhob plaid, heblaw am genedlaetholwyr yr Alban, sydd wedi dod allan yn unedig yn erbyn. Ond mae’n bwysig ein bod ni’n cael y ddadl, a heb Corbyn, byddai ddim dadl o gwbl,” ychwanegodd.