Carwyn Jones
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd llinell gymorth ar gael ar gyfer pobl sydd wedi’u heffeithio gan yr ymosodiadau brawychol ym Mharis.

Fe fydd Llinell Gymorth Paris Cymru ar gael o heddiw ymlaen ac mae’n darparu gwasanaeth cyfrinachol a chymorth i bobl o Gymru sy’n dychwelyd o Baris, yn ogystal a ffrindiau a pherthnasau’r rhai gafodd eu heffeithio yn y gyflafan nos Wener.

Y rhif rhadffôn yw 0800 107 0900 neu gellir anfon neges destun â’r gair  ‘help’ i 81066. Bydd ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Fe fydd y llinell gymorth hefyd yn cyfeirio pobl at ffynonellau eraill o gefnogaeth a chymorth os oes angen.

‘Dychryn’

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford: “Mae’r ymosodiadau brawychol ym Mharis wythnos diwethaf wedi ein synnu a’n dychryn i gyd.

“Mae Llywodraeth Cymru, GIG Cymru a phartneriaid eraill yn gwneud popeth yn ein gallu i gynnig cymorth ymarferol i unrhyw un o Gymru sydd wedi cael eu heffeithio gan yr ymosodiadau yma.

“Bydd y llinell gymorth newydd hon yn cynnig mynediad 24 awr at staff sydd wedi’u hyfforddi a fydd yn gallu rhoi cefnogaeth a chyngor i bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan y digwyddiadau ym Mharis.

“Bydd staff y llinell gymorth yn gallu rhoi cyngor ynghylch y gwasanaethau GIG Cymru mwyaf priodol i bobl sydd angen cymorth mwy arbenigol i’w helpu i ddelio â’r hyn maen nhw wedi bod drwyddi ac wedi’i weld.”

‘Cefnogaeth i’r gymuned Fwslimaidd’

Yn y cyfamser mae Prif Weinidog Cymru wedi gwneud datganiad yn y Senedd  yn ategu’r “tristwch” a’r “gefnogaeth” i Ffrainc, gan ddatgan hefyd ei “gefnogaeth a’i gydsafiad” i’r gymuned Fwslimaidd yng Nghymru.

“Mae Mwslimiaid yn gwneud cyfraniad grymus a chadarnhaol i’r gymdeithas yng Nghymru, a byddwn ni gyd yn sefyll gyda’n gilydd i wrthwynebu eithafiaeth ac ymddygiad ymosodol yn ein cymuned,” meddai gan gydnabod fod “y mwyafrif llethol” yn rhannu’r gwrthwynebiad yn erbyn brawychiaeth.

Fe ysgrifennodd Carwyn Jones lythyr at Lysgennad Ffrainc ddoe yn dweud fod “Cymru yn sefyll ochr yn ochr gyda phobl Ffrainc yn sgil y digwyddiadau ffiaidd ym Mharis nos Wener.”

Fe ddywedodd fod Paris wedi “talu’n ddrud am yr hawl i fyw mewn rhyddid ac mae dyletswydd arnom i warchod gwerthoedd rhyddid a democratiaeth ar bob cyfrif.”