Llun CCTV o'r lladrad yn siop Co-op
Mae’r heddlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddau ddyn arfog ddwyn dros £2,000 o siop ym Mhontycymer.

Am tua 6yb bore dydd Llun, daeth dau ddyn i mewn i’r siop Co-op ar Stryd Victoria yn gwisgo mygydau, ac yn cario trosol a morthwyl.

Fe wnaethon nhw glymu rheolwr y siop a dau weithiwr a mynnu cael gwybod ble oedd y sêff.

Roedd y dynion wedi dwyn dros £2,000 mewn arian parod, yn ogystal â sigaréts a chardiau crafu.

Mae swyddogion wedi lansio ymchwiliad i’r achos ac maen nhw’n credu bod y troseddwyr yn bobol leol.

 

Digwyddiad ‘prin iawn’

 

“Hoffwn sicrhau’r gymuned bod digwyddiadau fel hyn yn brin iawn yn yr ardal hon a dydyn ni ddim yn disgwyl iddo ddigwydd eto,” meddai’r Ditectif Arolygydd Andy Paddison.

“Maen nhw wedi gweithredu heb ystyried pwysigrwydd y siop i bobol y pentref a heb boeni o gwbl am les y dioddefwyr sydd wedi cael eu hysgwyd gan be’ maen nhw wedi bod drwyddo.”

Fe alwodd hefyd ar i unrhyw un sydd â gwybodaeth i ‘wneud y peth iawn’ a ffonio’r heddlu.

“Rydym hefyd wedi cyhoeddi lluniau camera cylch cyfyng o’r ddau ddyn sy’n cael eu hamau o’r drosedd yn y gobaith y gallai rywun eu hadnabod,” ychwanegodd Andy Paddison.

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar 101 a dyfynnu *424842 neu ffonio Taclo’r Taclau yn anhysbys ar 0800 555 111.