Trevor Purt, cyn-brif weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr
Yn ystod cyfarfod yn y Senedd heddiw, mae Aelodau Cynulliad wedi clywed bod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn parhau i dalu cyflog o £200,000 i’w cyn-brif weithredwr, ag yntau ar secondiad ac yn gweithio yn Lloegr.

Ym mis Hydref eleni, fe ymddiswyddodd yr Athro Trevor Purt fel Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, ac mae bellach wedi derbyn swydd ym maes iechyd yn Lloegr.

Ond fe roddodd rhai o uwch swyddogion Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, gan gynnwys Simon Dean, dystiolaeth yn ystod y pwyllgor cyfrifon cyhoeddus heddiw, gan ddweud fod y Bwrdd yn dal i’w gyflogi am mai dyna’r opsiwn “mwyaf effeithlon i’r trethdalwyr.”

Fe ddywedodd Aled Roberts, AC y Democratiaid Rhyddfrydol yn y gogledd nad yw’r “saga yn helpu unrhyw un.”

AC ‘wedi cael digon’

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn parhau i fod o dan “fesurau arbennig”, a hynny am ddwy flynedd wedi i Lywodraeth Cymru gynnal ymchwiliadau i wasanaethau’r Bwrdd Iechyd ym mis Mehefin.

Codwyd amheuon am arweinyddiaeth y Bwrdd, a’r pryder am ofal ar ward iechyd meddwl Tawel Fan, yn Ysbyty Glan Clwyd.

“Dydw i ddim yn meddwl fy mod i ar fy mhen fy hun pan rwy’n dweud fy mod wedi cael digon ar rai o’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan Betsi ar hyn o bryd,” meddai Aled Roberts.

Fe ymhelaethodd gan ddweud fod y “saga” yn tynnu’r sylw oddi ar y gwelliannau sydd eu hangen o fewn y gwasanaeth.

“Os mai cadw Trevor Purt ar gyflog o  £200,000 yn Betsi Cadwaladr yw’r opsiwn rhataf i’r trethdalwr, mae’n rhaid bod hynny’n golygu fod ganddo’r hawl i gael taliad ymddiswyddiad llawer mwy na hynny.”

Fe ddywedodd fod y Democratiaid Rhyddfrydol yn credu “fod taliadau chwe ffigwr yn hollol annerbyniol, a dyna pam ry’n ni am eu gwahardd.”