Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru
Mae gwleidyddion Cymreig wedi bod yn ymateb i’r ymosodiadau terfysgol ym Mharis, lle mae beth bynnag 127 o bobol wedi’u lladd gan ffrwydron a bwledi y mudiad ISIS (y Wladwriaeth Islamaidd).

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi bod yn trydar heddiw, yn dilyn y datblygiadau ym mhrifddinas Ffrainc. Mae eisoes wedi gohirio swper dathlu gyda charfan bêl-droed Cymru.

“Digwyddiadau ofnadwy ym Mharis heno,” meddai ar Twitter neithiwr. “Mae ein meddyliau gyda phawb heno.” Yna, mewn neges arall, mae’n cadarnhau y byddai’n rhan o gyfarfod brys y pwyllgor argyfwng, COBRA, yn Llundain, dan gadeiryddiaeth Prif Weinidog Prydain, David Cameron.

Ysgrifennydd Cymru 

Meddai Stephen Crabb, Ysgrifennydd Cymru, mewn neges ddwyieithog (Saesneg a Ffrangeg) ar Twitter:

“Mae Cymru’n sefyll fel un gyda phobol Ffrainc heddiw. Le Pays de Galles se tient aux cotés du peuple francais aujourdhui. #Paris.”

Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig 

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, yn dweud ei fod ef “wedi’i dristhau” gan y newyddion.

“Mi ges sioc fawr, a fy nhristau, o ddeffro i’r newyddion o Baris heddiw,” meddai mewn datganiad. Roedd y rhain yn ymosodiadau gwrthun a dieflig, ac mae’r ymosodwyr wedi dangos nad oes ganddyn nhw barch o gwbwl at fywyd.

“Rwy’n sicr fy mod yn siarad ar ran pawb yng Nghymru trwy ddweud fod ein meddyliau a’n gweddïau gyda phobol Paris, wrth iddyn nhw ddod i delerau gyda’r drasiedi hon.”

Arweinydd Plaid Cymru 

Yn ôl Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru, mae’n bryd i sefyll ysgwydd ag ysgwydd gyda’n cyd-ddynion, ac y dylai cymunedau ar draws y byd sefyll yn unedig er mwyn trechu y rheiny sydd am greu ofn.

“Mae hwn yn ddigwyddiad trasig ac ofnadwy, gyda’r bwriad o greu ofn o fewn pobol Ffrainc,” meddai Leanne Wood. “Yn sgil yr ymosodiadau hyn ar bobol Paris, rydyn ni’n sefyll gyda’r holl bobol hynny mewn cymunedau sydd wedi cael eu heffeithio gan y trais erchyll.”

Cynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol

Ar ddechrau cynhadledd y blaid yn Abertawe, fe gafwyd munud o dawelwch i gofio’r 127 a laddwyd yn yr ymosodiadau ym Mharis neithiwr.