Mae Plaid Cymru wedi cipio 87.2% o’r bleidlais mewn etholiad cyngor sir yng Nghonwy, gan gadw ei sedd ym mhlwyf Eglwysbach.

Austin Roberts o Dal-y-caf, yn Eglwysbach oedd enillydd yr isetholiad, gan sicrhau 369 o bleidleisiau.

Un arall oedd yn y ras, sef Hazel Catherine Meredith oedd yn cynrychioli’r Ceidwadwyr Cymreig. Daeth yn ail gyda 54 o bleidleisiau.

“Canlyniad i’w ddisgwyl”

“Roedd y canlyniad i’w ddisgwyl i ddeud y gwir, achos doedd yr ymgeisydd arall ddim yn lleol,” meddai’r ffermwr lleol Austin Roberts wrth golwg360.

“Dw i’n hogyn lleol, wedi byw yn yr ardal yma ar hyd fy oes. Fyswn i ddim yn deud bendant ‘mod i’n mynd i ennill ond buasai wedi bod yn syndod os baswn i ddim.”

Toriadau addysg yn “broblem fawr”

Mae Austin Roberts eisoes yn gynghorydd ar Gyngor Cymuned Plwyf Eglwysbach, ond dyma’r tro cyntaf iddo gymryd rôl fel cynghorydd sir.

“Mae o’n rhywbeth newydd i mi felly cael fy nhraed o dan bwrdd yn ara’ deg bydda’ i i ddechrau. Ond wrth gwrs, fy mhrif beth i ydy edrych ar ôl buddiannau trigolion Eglwysbach yn fwy ‘na dim byd, dyna ydy swydd pob cynghorwr sir am wn i.

“Fyswn i feddwl mai busnes y toriadau yma ydy’r her fwyaf. Mae’r sir yn torri’r gyllideb addysg ac mae hynny’n broblem fawr.”