Mae adran Cyllid a Thollau EM (CThEM ) wedi cyhoeddi heddiw ei fwriad i gau 137 o swyddfeydd treth yn y DU a chanoli gwasanaethau mewn 13 o ganolfannau rhanbarthol newydd dros y 10 mlynedd nesaf fel rhan o raglen foderneiddio.

Mae tua 58,000 o bobl yn gweithio i CThEM  mewn dros 170 o swyddfeydd ar draws y DU sy’n amrywio o ran maint o 6,000 o staff i lai na 10.

O dan y cynlluniau, fe fydd pob swyddfa dreth yng Nghymru y tu allan i Gaerdydd yn cau – sef Wrecsam, Abertawe a’r unig ganolfan alw Gymraeg ym Mhorthmadog.

Mewn datganiad dywedodd CThEM: “Ar hyn o bryd, mae gweithlu CThEM yng Nghymru wedi’i wasgaru ar draws pum swyddfa, sy’n amrywio o ran eu maint o tua 2,750 o bobl i lai na deg.

“Drwy ddod â nhw at ei gilydd mewn swyddfeydd mawr, modern, sydd ag isadeiledd digidol a chyfleusterau hyfforddi, bydd CThEM yn cynnig swyddi medrus a gyrfaoedd amrywiol, hyd at lefelau uwch.

“Bydd hyn hefyd yn golygu na fydd cymaint o angen i bobl symud ar hyd a lled y wlad. Mae CThEM yn disgwyl y bydd yr hyn sy’n cyfateb i rwng 3,500 and 3,800 o staff amser llawn yn gweithio yn y ganolfan ranbarthol yng Nghaerdydd.”

‘Oblygiadau difrifol’

Dywedodd AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, y byddai’r cynlluniau yn ergyd drom i’r economïau lleol a bod “oblygiadau difrifol” i wasanaethau Cymraeg. Ychwanegodd ei bod yn bwriadu codi’r mater gyda Llywodraeth y DU cyn gynted a phosib.

“Mae hyn yn ergyd fawr yn erbyn datganoli pwerau trethi i Gymru. Ar y naill law mae Llywodraeth y DU yn barod i ganiatáu i Gymru gael mwy o reolaeth dros ei threthi, ac eto ar y llaw arall, bydd gweinyddu’r pwerau hyn yn cael eu gwthio dros y ffin i Loegr.

“Mae hefyd yn ergyd drom i’r gymuned leol ym Mhorthmadog, lle mae unig ganolfan alwadau Cymraeg Cyllid a Thollau EM wedi ei leoli, gan roi nifer o swyddi mewn perygl. Mae amseru’r cyhoeddiad hwn yn erchyll – wythnosau’n unig cyn y Nadolig.

“Bydd yn golygu gostyngiad mewn gwasanaeth i’r cyhoedd ac yn ergyd drom i’r economi leol.

“Fel mae cyrff eraill y Llywodraeth sy’n ceisio gwneud toriadau wedi darganfod, mae goblygiadau difrifol iawn i’r Gymraeg petai swyddfa Cyllid a Thollau EM ym Mhorthmadog yn cau.

“Rwy’n bwriadu codi’r mater hwn cyn gynted ag y bo modd gyda’r Llywodraeth a chyflwyno’r achos cryfaf y dylai gwasanaethau Cymraeg fodoli o fewn cymunedau Cymraeg.

“Mae’r toriadau dinistriol HMRC nid yn unig yn effeithio ansawdd ac yn cymryd swyddi sy’n talu’n dda allan o’n cymunedau, ond mae hefyd yn rhoi’r system casglu trethi, sydd eisoes heb gael ei staffio’n ddigonol, mewn perygl.”

‘Gwell gwasanaethau’

Dywedodd Lin Homer, Prif Weithredwr CThEM: “Mae gan CThEM ormod o swyddfeydd sy’n ddrud, anghysbell a hen ffasiwn. O ganlyniad, mae’n anodd i ni gydweithio, moderneiddio ein dulliau o weithio, a gwneud y newidiadau sydd eu hangen er mwyn gweddnewid ein gwasanaeth i gwsmeriaid a mynd i’r afael â’r lleiafrif sy’n ceisio twyllo’r system.

“Bydd y ganolfan ranbarthol newydd yng Nghaerdydd yn dod â’n staff at ei gilydd mewn adeilad sy’n fwy modern a chost-effeithiol, mewn ardal sydd â rhenti is. Yn ogystal, bydd yn gwneud cyfraniad sylweddol at economi Cymru drwy ddarparu swyddi medrus o ansawdd uchel, a drwy gefnogi ymrwymiad y Llywodraeth i adferiad cenedlaethol sydd o les i bob rhan o’r DU.”

‘Diystyru Cymru’

Dyweoddd Rhun ap Iorwerth, llefarydd Plaid Cymru dros yr economi: “Mae Llywodraethau olynol y DU dros y degawd diwethaf wedi bod yn benderfynol o gau swyddfeydd treth ac mae’r cynlluniau diweddaraf yma’n dangos sut mae’r Llywodraeth Dorïaidd yma’n diystyru Cymru.

“Ni ellir disgwyl i weithwyr Wrecsam, Abertawe a Phorthmadog symud i Gaerdydd, neu symud dros y ffin i Telford neu Lerpwl.

“Mae hwn yn dditiad damniol o flaenoriaethau’r Torïaid – cau swyddfeydd treth a thorri swyddi tra bod corfforaethau mawr yn parhau i chwarae’r system dreth.”