Guto Harri
Mae Guto Harri, Cyfarwyddwr Cysylltiadau Cyhoeddus News UK wedi cyhoeddi y bydd yn gadael y cwmni ar ôl gweithio yno am dair blynedd.

Fe fydd y Cymro yn gadael y cwmni ddechrau’r flwyddyn, ac fe ddywedodd fod ei “waith wedi’i wneud” yno.

Fe ymunodd Guto Harri â News UK yn 2012, gan gydweithio â chyhoeddwyr fel The Sun, Times a’r Sunday Times.

Mewn neges e-bost at ei gydweithwyr, fe ddywedodd Guto Harri fod ei “waith wedi’i wneud” yn y cwmni, ag yntau wedi helpu News UK i adennill ffocws yn dilyn y sgandal hacio ffonau a ddigwyddodd yn y cyfnod cyn hynny.

‘Ailadeiladu pontydd’

Fe ddywedodd Guto Harri ei fod yn falch i “wyrdroi’r sylw ofnadwy wrth y cwmni” mewn perthynas â’r sgandal.

Fe ddywedodd y gall y cwmni ganolbwyntio’n awr ar ei bortffolio papur newydd dan arweiniad Rebekah Brooks – a ddychwelodd fel Prif Weithredwr ym mis Medi, blwyddyn wedi iddi ei chael yn ddieuog  o gyhuddiadau’n ymwneud â’r sgandal hacio ffonau.

Ar wefan Twitter, fe wnaeth Guto Harri ddiolch i bawb yn News UK am “helpu i adfer ysbryd hyder, ailadeiladu pontydd gwleidyddol a brwydro yn erbyn y sylw ofnadwy o’r cwmni.”

Fe ddywedodd hefyd ei fod yn falch o weithio “â rhai o’r newyddiadurwyr print gorau yn y byd.”

Cyn ymuno â News UK bu Guto Harri, sy’n wreiddiol o Gaerdydd, yn ohebydd gwleidyddol i’r BBC, ynghyd â bod yn gyfarwyddwr materion allanol i Faer Llundain, Boris Johnson.

Nid yw Guto Harri wedi datgelu hyd yn hyn beth fydd ei rôl nesaf ac nid yw News UK wedi cyhoeddi pwy fydd ei olynydd.