Neuadd Pantycelyn
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi fod y cyfnod ymgynghori wedi agor i gasglu barn am y math o lety a gofod cymdeithasol fydd yn ateb gofynion myfyrwyr cyfrwng Cymraeg am y deugain mlynedd nesaf.

Fe wnaeth Bwrdd Prosiect Pantycelyn, a sefydlwyd ym mis Medi, benodi cwmni o Landeilo sef Old Bell 3 i gynnal ymgynghoriad annibynnol i’r hyn y mae pobol yn ei ddymuno ar gyfer llety dynodedig Cymraeg.

“O’r dechrau’n deg, mae aelodau’r Bwrdd wedi bod yn glir ynglŷn â’r angen i gomisiynu gwaith ymchwil annibynnol ar natur y ddarpariaeth o ran llety a gofod cymdeithasol a fydd yn debygol o gwrdd â disgwyliadau siaradwyr Cymraeg yma ym Mhrifysgol Aberystwyth am y 40 mlynedd nesaf,” meddai Gwerfyl Pierce Jones, Cadeirydd Bwrdd Prosiect Pantycelyn.

Holiadur

Fel rhan o’r ymchwil, fe fydd Old Bell 3 yn lansio holiadur cyhoeddus, ac yn cynnal grwpiau ffocws gyda myfyrwyr israddedig, uwchraddedig a staff cyfrwng Cymraeg y Brifysgol. Mae’r holiadur ar gael i’r cyhoedd tan 30 Tachwedd.

“Rwy’n gobeithio y bydd cynifer â phosibl yn cyfrannu at y drafodaeth wrth i ni fynd ati i adeiladu ar lwyddiannau Neuadd Pantycelyn a datblygu cynlluniau cyffrous i ddarparu ar gyfer anghenion a disgwyliadau’r cenedlaethau nesaf o fyfyrwyr Cymraeg,” ychwanegodd Gwerfyl Pierce Jones

Bydd Old Bell 3 yn cyflwyno’r dystiolaeth i’r Bwrdd Prosiect cyn y Nadolig.

Yna, fe fydd y Bwrdd yn defnyddio’r canlyniadau i baratoi briff dylunio ar gyfer llety a gofod cymdeithasol cyfrwng Cymraeg, ac “yn ystyried sut y gellid gwireddu’r dyluniad yn Neuadd Pantycelyn” yn ôl datganiad gan y Brifysgol.

Fe fyddan nhw’n cyflwyno’r adroddiad terfynol erbyn 30 Ebrill 2016, ac yna gerbron Cyngor y Brifysgol erbyn diwedd y flwyddyn academaidd.

Cefndir

Fe gafodd Bwrdd Prosiect Pantycelyn ei sefydlu yn dilyn penderfyniad Cyngor y Brifysgol ar 22 Mehefin i gymeradwyo cynnig yn tanlinellu ymrwymiad y Brifysgol i’r iaith Gymraeg a’i diwylliant ac i ddarparu llety Cymraeg penodedig o fewn y Brifysgol.

Roedd y cynnig yn nodi’r bwriad i ailagor Pantycelyn o fewn 4 blynedd er mwyn darparu llety a gofod cymdeithasol Cymraeg o’r radd flaenaf, a fydd yn addas ar gyfer anghenion myfyrwyr y dyfodol.