Mae dyn 22 oed o Lanelli wedi marw yn dilyn ymosodiad difrifol.
Cafodd Simon Lee Ball ei gludo i’r ysbyty yn dilyn y digwyddiad yn Stryd Dillwyn y dref nos Wener.
Bu farw’n ddiweddarach.
Mae dau ddyn 30 a 52 oed wedi cael eu harestio ar amheuaeth o’i lofruddio.