Fe fydd pwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd yn gwneud penderfyniad ar gynlluniau i godi 366 o dai newydd ym Mangor ddydd Llun, ar ôl i swyddogion argymell eu caniatáu.

Mae datblygwyr Morbaine Ltd o Swydd Gaer yn gobeithio adeiladu yn ardal Penrhosgarnedd, rhwng Ysbyty Gwynedd a Ffordd Caernarfon, ar safle 35 acer.

Mewn adroddiad i’r pwyllgor cynllunio mae swyddogion y cyngor wedi argymell y dylid caniatáu’r cynlluniau, gydag amodau yn cynnwys ei fod yn cael ei adeiladu’n raddol a bod 30% o’r tai yn rhai fforddiadwy.

Ond mae’r cynlluniau wedi cael eu gwrthwynebu gan rai trigolion lleol, gyda phryder ynglŷn â baich ychwanegol ar wasanaethau cyhoeddus a thrafnidiaeth yn ogystal â’r effaith ar yr iaith Gymraeg.

Rhwng 2001 a 2011 fe gwympodd nifer y siaradwyr Cymraeg yn y ddinas o 55% i 45%, ac mae Cymdeithas yr Iaith yn ofni gwaeth os ddaw’r tai newydd.

Cwestiynu strategaeth

“Os bydd y Cyngor yn gadael i’r datblygiad difaol hwn i’r Gymraeg fynd yn ei blaen, yna mae’n rhaid cwestiynu beth yw eu strategaeth ar gyfer yr iaith ym Mangor,” meddai Menna Machreth, Cadeirydd Rhanbarth Gwynedd-Môn Cymdeithas yr Iaith.

“Mae dan 50% o drigolion y ddinas yn medru’r Gymraeg fel y mae hi, a bydd y datblygiad yma’n gwthio’r Gymraeg ymhellach i’r ymylon a’r cam di-droi’n ôl o golli’r Gymraeg fel iaith y gymuned ym Mhenrhosgarnedd.

“Gobeithio bydd Cynghorwyr yn rhoi digon o bwys ar y Gymraeg i sylweddoli bod angen asesu’r angen lleol ac adeiladu yn ôl y galw oherwydd fod y maint y datblygiad yn rhy fawr.

“Fel gyda’r Cynllun Datblygu Lleol, mae’n syfrdanol cyn lleied o ymchwil gwyddonol sy’n cael ei wneud i asesu effaith datblygiad o’r maint hwn ar y Gymraeg ym Mangor.”

Tai fforddiadwy

Byddai’r 366 o dai newydd yn cael eu hadeiladu ar gaeau oedd yn arfer cael eu defnyddio gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor, ac mae tafliad carreg oddi wrth Ysbyty Gwynedd yn ogystal â siopau ar Ffordd Caernarfon megis B&Q a Currys.

Byddai’r datblygiad ym Mhen Y Ffridd hefyd yn cynnwys adeiladu ffyrdd cysylltiol newydd i’r stad, llwybrau cerdded, llefydd parcio a gofod ar gyfer meysydd chwarae.

Mwy o Saesneg ar yr iard?

Dywedodd yr adroddiad fodd bynnag nad oedd y datblygiad “yn debygol o achosi tyfiant sylweddol yn y boblogaeth a all effeithio’n andwyol ar yr iaith Gymraeg” oherwydd poblogaeth uchel Bangor a phresenoldeb niferoedd sylweddol o fyfyrwyr.

Mynnodd swyddogion nad oedden nhw chwaith yn disgwyl i’r datblygiad effeithio ar Gymreictod yr ysgol gynradd leol, Ysgol y Garnedd, er y gallai effeithio ar iaith yr iard.

“Dylai cynnydd yn nifer o ddisgyblion gael effaith bositif ar y Gymraeg gan y byddent yn cael eu haddysg drwy’r Gymraeg,” meddai’r adroddiad.

“Ar y llaw arall, mae potensial i ddefnydd o’r iaith ar yr iard leihau gyda’r cynnydd o ddisgyblion gyda Saesneg fel eu hiaith gyntaf.”

Ychwanegodd swyddogion y byddai angen sicrhau bod pobl leol yn cael digon o gyfle i fanteisio ar brynu tai fforddiadwy yn y datblygiad, gan gyfaddef fodd bynnag y gallai’r Gymraeg gael ei heffeithio i ryw raddau.

“Dylid ystyried datblygu’r safle gam wrth gam er mwyn lliniaru unrhyw effaith negyddol ar yr iaith Gymraeg o ganlyniad i adeiladu tai ar raddfa / cyfradd sydd fwy na’r angen lleol,” meddai’r swyddogion.

Cwestiynu’r angen

Mae’r datblygiad arfaethedig ym Mhen y Ffridd eisoes wedi cael ei wrthwynebu gan rai trigolion lleol a chynghorwyr, fodd bynnag, gyda channoedd yn arwyddo deiseb yn erbyn y cynlluniau.

Yn ôl gwrthwynebwyr lleol, gan gynnwys y cyngor bro cyfagos ym Mhentir, does gan yr ardal ddim isadeiledd digonol i ddelio â rhagor o draffig yn ogystal â gofynion pellach ar wasanaethau iechyd ac addysg.

Roedd pryderon hefyd am yr effaith ar yr iaith Gymraeg yn ogystal â chymunedau Bangor yn ehangach, gyda phobl rhai o’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn cwestiynu pam oedd angen y datblygiad ar yr ardal.

Mae Cyngor Dinas Bangor hefyd wedi codi gwrthwynebiad, gan gyfeirio at ddatblygiad arfaethedig arall oddi ar Ffordd Penrhos, lai na milltir i ffwrdd, allai weld 245 o dai eraill yn cael eu hadeiladu.

Dywedodd cyngor y ddinas y byddai “angen asesiad llawn o’r rhwydwaith ffyrdd lleol, isadeiledd, adnoddau hamdden, addysg a chyfleusterau cymdeithasol gan y gwasanaeth Cynllunio cyn ystyried y cais”.

Ond mae Awdurdod Priffyrdd ag Adran Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru wedi tynnu gwrthwynebiad oedd ganddyn nhw yn ôl, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru hefyd wedi dweud eu bod yn hapus â’r cynlluniau.