Fe wnaeth nifer yr honiadau o dreisio gynyddu 20% yng Nghymru’r llynedd, gan ddyblu yn  ardal Heddlu Dyfed Powys.

Fe gynyddodd nifer yr achosion o dreisio yn ne orllewin Cymru o 14 i 28 i bob 100,000 o oedolion, ond mae’n parhau i fod yr ardal â’r nifer lleiaf o achosion yng Nghymru a Lloegr.

“Mae’r heddlu yn parhau i ddelio â chynnydd o ran nifer y bobl sy’n rhoi gwybod i’r heddlu am droseddau ac mae’n gweithio mewn partneriaeth gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron ac asiantaethau eraill i wella canlyniadau,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys.

Cafodd yr heddlu wybod am 1,360 o achosion o dreisio yng Nghymru rhwng 2014 a 2015 – 809 yn erbyn oedolion a 551 yn erbyn plant.

1,107 oedd y cyfanswm yn y flwyddyn flaenorol.

‘Annog dioddefwyr i fynd at yr heddlu’

Fe welodd Heddlu De Cymru gynnydd o bron i 50% yn ei niferoedd, sef 30 o achosion o dreisio i bob 100,000 o oedolion – o’i gymharu a 20 yn ystod y flwyddyn flaenorol.

“Rydym yn ymrwymedig i gynyddu hyder y cyhoedd ac annog dioddefwyr i ddod ymlaen a rhoi gwybod i’r heddlu am y mathau hyn o droseddau,” meddai’r Ditectif Brif Uwch-arolygydd, Lorraine Davies dros Heddlu De Cymru.

“Mae Heddlu De Cymru yn gweithio’n galed iawn, ynghyd â’n partneriaid, i godi ymwybyddiaeth ac annog dioddefwyr i gael hyder yn ein gallu i’w cefnogi ac ymchwilio i achosion o dreisio ac ymosodiadau rhyw.”

Roedd yr ail nifer lleiaf o achosion yng Nghymru yn Heddlu Gwent, sef 29 fesul 100,000 o oedolion, cynnydd o 26 yn ystod y flwyddyn flaenorol.

‘Pobl yn fwy parod i roi gwybod am droseddau’

Mae’r ffigurau yn dod o adroddiad Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi (HMIC) sydd wedi cael ei baratoi ar ran y Grŵp Monitro Treisio.

Yn ôl yr arolygiaeth, gall fod sawl rheswm dros y cynnydd mewn nifer yr achosion, gan gynnwys y ffaith fod pobl yn fwy parod i roi gwybod i’r heddlu os ydyn nhw wedi dioddef trais.

Gallai cyhoeddusrwydd o amgylch troseddwyr rhyw enwog, fel Jimmy Savile hefyd fod wedi annog mwy o bobl i roi gwybod am achosion hanesyddol.