Sophie Howe
Mae cynghorydd tref o Lanelli wedi amddiffyn ei sylwadau am Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol cyntaf Llywodraeth Cymru.

Ar ei thudalen Twitter, roedd Ruth Ferris Price o Blaid Cymru wedi cymharu Sophie Howe â chymeriad Sharon Stone yn y ffilm ‘Basic Instinct’.

Dywedodd hi fod Sophie Howe yn “fadam fach ddigywilydd £93k yn croesi ei choesau yn null Sharon Stone”.

Mae Cymdeithas yr Iaith eisoes wedi mynegi pryder nad yw Sophie Howe yn medru’r Gymraeg.

Ymhlith cyfrifoldebau’r Comisiynydd newydd mae sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu.

Ond roedd yr hysbyseb yn nodi bod medru’r Gymraeg yn “ddymunol”.

Mae Sophie Howe wedi gwrthod ymateb i sylwadau Ruth Ferris Price.

 ‘Jôc’

Dywedodd Ruth Ferris Price wrth Golwg360: “Roedd y sefyllfa’n fy atgoffa o’r ffilm ‘Basic Instinct’. Roedd hi [Sophie Howe] yn edrych fel 1980s power-dressing heroine.

“Dwi ddim yn awgrymu ei bod hi’n eistedd heb bants!”

Dywedodd hi mai “jôc” oedd ei sylwadau.

Ychwanegodd hi fod Plaid Cymru wedi ei chynghori i ddileu’r neges ar Twitter, ond nad oedd hi wedi cael ei gorfodi.

“Fe wnes i fe fel cymwynas rhag ofn bod y sylwadau wedi’u cam-ddehongli.”

Ond dywedodd fod y sefyllfa wedi troi’n “smokescreen” er mwyn tawelu’r ffrae am benodi Sophie Howe.

“Rwy am i bobol ganolbwyntio ar y stori, nid y jôc.”

‘Anaddas’

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: “Roedd y sylwadau yn anaddas a doedden nhw ddim yn adlewyrchu barn Plaid Cymru.

“Mae Ruth Price wedi tynnu ei sylwadau yn ôl ac ymddiheuro.”

Mae nifer o unigolion wedi ymateb yn chwyrn i’w sylwadau, gan gynnwys ymgeisydd Llafur ar gyfer etholiadau’r Cynulliad yn Llanelli, Lee Waters.

“Does dim lle i hyn mewn gwleidyddiaeth, yn enwedig gan gynghorydd etholedig.”

Cafodd y penodiad ei gadarnhau ddoe gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Carl Sargeant, sy’n awyddus i gyflwyno ddeddfwriaeth newydd ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol.

Dywedodd: “Diben y Ddeddf yw gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru a bydd cael pobol gryf yn y swyddi pwysig hyn yn ein helpu ni i sicrhau’r Gymru ry’n ni am ei gweld.”

‘Dysgu’r iaith’

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi gofyn am sicrwydd y bydd Sophie Howe, cyn-Ddirprwy Gomisiynydd Heddlu De Cymru, yn mynd ati i ddysgu’r iaith i lefel sy’n golygu y gall weithio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd Sophie Howe yn gyfrifol am weithredu ar Fil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a gafodd ei gyflwyno ddechrau’r flwyddyn.

Mae’r Bil yn gosod saith ‘nod llesiant’ ar gyfer y dyfodol, ac fe fydd y Comisiynydd yn eiriolwr ar gyfer y nodau hyn, gan gynghori a chefnogi awdurdodau cyhoeddus Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru’n mynnu eu bod nhw wedi dilyn eu Cynllun Iaith wrth benodi’r Comisiynydd newydd.

Mae’r Ceidwadwyr wedi cyhuddo’r Blaid Lafur o benodi pobol sy’n “deyrngar” iddyn nhw’n unig.