Llys y Goron Caerdydd
Mae dyn o Abertawe wedi dweud wrth Lys y Goron Caerdydd bod tri ditectif wedi dwyn cyfran o’i gynilion ar ol cynnal cyrch yn ei gartref pedair blynedd yn ôl.

Fe ddywedodd Joedyn Luben, 32 oed, sy’n astudio’r gyfraith, fod ganddo £77,000 o gynilion mewn sêff pan ddigwyddodd y cyrch ym mis Ebrill 2011.

Fe gynhaliodd Heddlu De Cymru gyrch o dan warant  yn ei eiddo gan gymryd y sêff honno i’w archwilio.

Ar ddiwedd yr ymchwiliad, fe ddywedodd Joedyn Luben ei fod wedi derbyn siec gan yr heddlu ddwy flynedd yn ddiweddarach, ond ei fod “£30,000 yn brin.”

‘Cynilion bywyd’

Mae’r cyn-dditectif Stephen Phillips a dau gwnstabl, Philip Christopher Evans a Michael Stokes wedi’u cyhuddo o ddwyn.

Roedd y tri yn rhan o ymchwiliad mewn lleoliadau yn Abertawe – lle cafodd Joedyn Luben ei arestio ar amheuaeth o ddelio â chyffuriau cyn ei ryddhau’n ddiweddarach heb gyhuddiad.

Fe ddywedodd Joedyn Luben ei fod wedi rhoi cod y sêff i Michael Stokes yn fuan wedi’r cyrch, a bod ganddo £77,000.

Fe glywodd y Llys mai dyna oedd cynilion bywyd Joedyn Luben, ac yntau’n 27 oed ar y pryd.

“Cafodd y cod ei gyfnewid dros radio’r heddlu (i’w gydweithiwr)… ac fe glywais swyddog yn dweud wedyn “ni mewn”, esboniodd Joedyn Luben wrth y Llys.

Fe ddywedodd hefyd ei fod wedi rhoi £12,000 yn y sêff y noson cynt ar ôl gwerthu car Mitsubishi Evolution am y pris yna.

Fe glywodd y Llys bod £40,000 wedi’i gadw mewn bag glas o dan wely’i fam, £20,000 mewn 20 poced ar wahân a £5,000 mewn amlen wen.

Pledio’n ddieuog

Pan ddaeth yr ymchwiliad i ben ymhen dwy flynedd, fe dderbyniodd Joedyn Luben siec a oedd “£30,000 yn brin.”

“Fe wnes i hi’n gwbl glir i Michael Stokes fy mod i’n anhapus fod y swm ar y siec yn brin.

“Roedd yntau’n gwenu ac yn ceisio ysgogi ymateb,” meddai Joedyn Luben.

Wrth gael ei groesholi fe wadodd Joedyn Luben fod yr arian oedd ganddo yn y tŷ wedi dod o werthu cyffuriau.

Mae’r tri ditectif, Stephen Phillips o Abertawe, Philip Christopher Evans o Langennech a Michael Stokes o Lyn-nedd wedi pledio’n ddieuog.

Mae’r achos yn parhau.