Gavin Williams
Mae cwest i farwolaeth milwr o Gymru, a fu farw ar ôl cael ei gosbi’n answyddogol, wedi clywed ei fod ‘mewn cyflwr gwael’ cyn ei farwolaeth.

Roedd y Preifat Gavin Williams, 22 oed o Hengoed, Caerffili, yn aelod o Ail Fataliwn y Cymry Brenhinol yng ngwersyll Lucknow yn Wiltshire.

Bu farw ar 3 Gorffennaf 2006, ar ôl gorboethi yn ystod ymarferiad dwys ar un o ddiwrnodau poetha’r flwyddyn –  a hynny ar ôl cael ei gosbi am anufudd-dod.

Fe ddangosodd profion yr ysbyty fod tymheredd ei gorff wedi cyrraedd 41.7 gradd Celsius y diwrnod hwnnw.

Cafodd y cwest i’w farwolaeth ei ail-agor ddoe ar gais ei deulu.

Ystyried y gwres

Cafwyd tri swyddog wnaeth gosbi’r milwr yn ddieuog o gyhuddiadau o ddynladdiad yn 2008. Roedd y swyddogion hynny’n cynnwys y Rhingyll  Russell Price, y Rhingyll Paul Blake a’r Is-ringyll John Edwards.

Clywodd y cwest yn Salisbury heddiw bod Gavin Williams wedi bod allan yn yfed gyda’i gydweithwyr dros y penwythnos cyn ei farwolaeth.

Credir iddo gymryd ecstasi mewn clwb nos, er na welodd yr un o’i ffrindiau hynny.

Pan ddychwelodd i’r barics fore Sul, bu digwyddiad gyda diffoddydd tân ble cafodd ymwelwyr eu chwistrellu gyda dŵr.

Ar y dydd Llun cafodd Gavin Williams ei weld yn cael ei gosbi’n answyddogol, rhywbeth sy’n cael ei adnabod yn y fyddin fel ‘beasting’.

Cyffuriau

Fe ddywedodd y Preifat Michael Matthews ei fod wedi gweld Gavin Williams yn cael ei gosbi a’i fod yn edrych fel ei fod “mewn cyflwr gwael iawn”.

Mewn datganiad yn y cwest fe ddywedodd: “Mae’r math yma o gosb yn para tuag awr. Fel arfer tua hanner awr o fartsio a hanner awr yn y gampfa.”

“Rwy’n cofio meddwl ei bod hi braidd yn boeth am y math yna o gosb a hithau wedi bod yn gynnes ers yn gynnar,” ychwanegodd.

“Maen nhw fel arfer yn ystyried y gwres. Mae yna reoliadau iechyd a diogelwch,” esboniodd.

Yn gynharach fe glywodd y cwest gan lygad-dyst arall, sef y Preifat Ledua Vasukiviwa a ddywedodd iddo weld Gavin Williams yn y barics ar y bore dydd Sadwrn yn dilyn ei noson allan.

Roedd yn sicr bod Gavin Williams wedi bod yn cymryd cyffuriau oherwydd ei ymddygiad, meddai.

Fe ddywedodd Ledua Vasukiviwa fod Gavin Williams wedi dweud ei fod dan bwysau mawr a bod ganddo lawer ar ei feddwl.

Roedd Gavin Williams wedi estyn am 15 – 20 tabled o’i boced ac wedi cynnig peth iddo yntau.

“Fe wnes i wrthod, ond roedd e’n mynnu – yn erfyn bron.”

“Fe ddywedodd Gavin mai ecstasi oedd e a’i fod wedi cymryd saith y bore hwnnw’n barod, ac fe wyliais i e’n cymryd dau arall.”

Mae’r gwrandawiad yn parhau.