Mae rheoleiddiwr yr heddlu, yr IPCC, wedi agor ymchwiliad llawn i’r amgylchiadau a arweiniodd at wrthdrawiad y tu allan i glwb nos ym Mhorthcawl.

Mewn datganiad heddiw, mae Comisiynydd yr IPCC yng Nghymru, Jan Williams, wedi cadarnhau y bydd ymddygiad yr heddlu cyn y ddamwain dan y chwydd wydr.

“Roedd fan heddlu yn yr ardal ychydig cyn y gwrthdrawiad, ac fe fydd ein ymchwiliad annibynnol yn edrych ar sut y gweithredodd yr heddlu mewn perthynas a’r car Audi, ac fe fydd angen gweld a gafodd y drefn briodol ei pharchu a’i dilyn.

Mae’r IPCC yn apelio ar i unrhyw un welodd y ddamwain ar Stryd Ioan, ar Y Pwrtwai neu ar ffyrdd gerllaw.
Os gwelodd unrhyw un fan yr heddlu (fan wen  gyda’r enw ‘Heddlu’ wedi’i farcio arni’n glir) neu’r car Audi A4, cyn y ddamwain, neu os oes unrhyw un yn cofio gweld unrhyw ymwneud rhwng y ddau gerbyd cyn y gwrthdrawiad, dylent gysylltu gyda’r IPCC.