Pontcysyllte yn Nyffryn Dyfrdwy (llun: Cronfa Dreftadaeth y Loteri)
Fe fydd tair ardal yng Nghymru yn derbyn dros £6m o arian loteri er mwyn gwarchod eu tirwedd a’u prydferthwch naturiol – ac ar yr un pryd eu helpu i fanteisio ar dwristiaeth.

Bydd prosiect Gwastadeddau Gwent, Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, a Chwm Elan i gyd yn derbyn rhan o’r arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL).

Dywedodd y CDL fod gan y tair ardal y potensial i “ddefnyddio eu tirweddau naturiol a bywyd gwyllt, adeiladau nodedig, traddodiadau a storïau lleol a hyd yn oed archaeoleg ddiwydiannol” er mwyn cynyddu twristiaeth a chreu swyddi.

Mae disgwyl i’r gronfa arian greu hyd at 3,000 o leoliadau hyfforddiant yn ogystal â nifer debyg o gyfleoedd hyfforddi.

Hybu byd natur

Mae’r grant yn golygu y bydd ardal o ogledd, canolbarth a de Chymru’n cael y cyfle i elwa o’r buddsoddiad a’r manteision twristaidd posib.

Mae bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy eisoes yn denu nifer o ymwelwyr i weld ei hatyniadau sydd yn cynnwys Safle Treftadaeth Byd eiconig Pontcysyllte, ac fe fydd yr ardal hwnnw yn cael £1.4m o’r arian grant.

Yn ôl y gronfa fe fydd y buddsoddiad o £1.7m yng Nghwm Elan a’r ardaloedd cyfagos, sydd eisoes yn denu 150,000 o ymwelwyr y flwyddyn, yn helpu i ddiogelu rhywogaethau a chynefinoedd lleol.

A bwriad y prosiect gwerth £2.8m yng ngwastadeddau Gwent fydd gweld gwirfoddolwyr, ffermwyr a chymunedau yn cydweithio i gynyddu rheolaeth ar y cyd sy’n fuddiol i fywyd gwyllt, gan ddarparu dehongliad a chreu llwybrau digidol, a chodi ymwybyddiaeth pobl o nodweddion unigryw’r ardal.

‘Hwb i’r economi’

Yn ôl Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Cymru, Richard Bellamy, y bwriad fydd datblygu potensial economaidd yr ardaloedd a “gwneud cefn gwlad yn fwy ffyniannus”.

“Mae ein tirweddau trawiadol yn diffinio hanfod cymeriad Cymru ac maent yn gymaint rhan o bwy rydym â’n cestyll, iaith a rygbi,” meddai Richard Bellamy.

“Maent yn golygu cymaint i’r bobl y mae Cymru’n gartref iddynt ag y maent i’r degau o filoedd o ymwelwyr sy’n dod i’w mwynhau.

“Rhaid gwarchod y lleoedd bregus hyn. Fodd bynnag, trwy eu rheoli’n ofalus, gall ein tirwedd a’n cefn gwlad chwarae rhan bwysig hefyd yn tyfu economi ein cenedl.”

Cafwyd croeso i’r cyhoeddiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol Carl Sergeant, a ddywedodd y gallai’r arian fynd tuag at “greu swyddi newydd a chyfleoedd hyfforddiant pwysig”.