Llun pelydr X yn dangos canser yr ysgyfaint (James Heilman CCA 3.0)
Mae mwy o bobol yng Nghymru’n marw o ganser yr ysgyfaint nag yn y rhan fwya’ o wledydd Ewropeaidd, yn ôl adroddiad newydd.

Ac mae’r gallu i gael gafael ar y gwasanaethau gorau’n amrywio’n fawr o le i le, meddai Clymblaid Canser Ysgyfaint y Deyrnas Unedig.

Mae’r mudiadau wedi canmol rhai o gynlluniau Llywodraeth Cymru ond yn galw am wneud rhagor, gan gynnwys rhagor o waith ar ddod o hyd i’r clefyd yn gynnar.

Amodau cymdeithasol

Mae’r Glymblaid yn mynnu bod amodau cymdeithasol hefyd yn cynyddu’r peryg o’r clefyd – gan gynnwys smygu, alcohol, diffyg ymarfer corff a bod yn rhy dew.

Yn ôl yr adroddiad, mae llawer o’r problemau yna’n fwy mewn ardaloedd tlotach.

Yn ôl meddygon yng Nghymru, un o’r rhesymau am y problemau yw fod cleifion yn aml yn meddwl mai ‘peswch smygu’ sy’n gyfrifol am eu symtomau ac wedyn yn mynd at y meddyg yn rhy hwyr.

Rhai o’r ffeithiau

  • Canser yr ysgyfaint yw’r mwya’ marwol o bob canser yng Nghymru – 22% o’r holl farwolaethau canser.
  • Dim ond ychydig tros 7% o gleifion canser sy’n byw am fwy na phum mlynedd – yr ail isa’ o blith 29 o wledydd Ewropeaidd.
  • Mae tua 3,000 o bobol yng Nghymru yn bwy gyda chanser yr ysgyfaint ar hyn o bryd.
  • Er fod lefelau canser yr ysgyfaint ymhlith dynion wedi gostwng, mae ar gynnydd ymhlith merched + tua 33% tros ddeng mlynedd.
  • Mae 1,894 o bobol y flwyddyn marw o ganser yr ysgyfaint bob blwyddyn.
  • Mae hynny’n fwy na marwolaethau oherwydd canser y bowel a’r fron gyda’i gilydd – 1,506
  • Mewn rhai ardaloedd, mae lefel y marwolaethau’n uwch – yn ardal Bwrdd iechyd Cwm Taf, mae’r ffigwr 25% yn uwch na’r cyfartaledd trwy wledydd Prydain.