Saith Seren
Mae aelod o fwrdd rheoli Saith Seren yn Wrecsam wedi anfon ail lythyr agored at Brif Weinidog Cymru am sefyllfa’r Gymraeg yn y dref.

Daw’r llythyr wythnos ar ôl y llythyr cyntaf oedd yn nodi pryder am y ffaith fod grant gwerth £300,000 wedi cael ei roi i Goleg Cambria’r dref.

Ar y llaw arall, dydy Saith Seren ddim wedi derbyn unrhyw arian gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Chris Evans wrth Golwg360 yr wythnos diwethaf ei fod yn croesawu rhoi £300,000 i Goleg CAMU.

Ond fe dynnodd sylw at annhegwch y ffaith nad oedd Saith Seren wedi derbyn yr un geiniog er iddyn nhw fynd i drafferthion ariannol a dod o fewn trwch blewyn o orfod cau.

Yn ei lythyr cyntaf, dywedodd Chris Evans y byddai cau Saith Seren wedi bod yn “hoelen olaf” yn arch y Gymraeg yn Wrecsam, gan ei bod yn gweithredu fel un o brif ganolfannau cymdeithasol yr iaith yn y dref.

Cefndir

Agorodd Saith Seren yn 2012 trwy gyfraniadau ariannol gwirfoddol a thrwy gytundeb gyda Chymdeithas Tai Clwyd Alyn, oedd wedi prynu’r adeilad a’i rentu’n ôl i’r cwmni.

Ond ddechrau’r flwyddyn hon, aeth y ganolfan i drafferthion ariannol, yn bennaf oherwydd y rhent uchel oedd yn cael ei hawlio gan y Gymdeithas Tai.

Ceisiodd Saith Seren sicrhau nifer o grantiau a ffynonellau ariannol eraill heb lwyddiant, a bu bron i’r ganolfan gau ym mis Mai.

Cafodd ymgyrch ar-lein ei sefydlu gan Aran Jones o ‘Say Something in Welsh’ yn gofyn i gefnogwyr y ganolfan gyfrannu £10 y mis i geisio’i hachub.

Bryd hynny, roedd angen codi £3,000 y mis i gynnal y ganolfan, ac fe lwyddodd yr ymgyrch o fewn tri mis.

Ail lythyr agored

 

Yn ei ail lythyr, mae Chris Evans wedi amlinellu’r cyfleusterau sydd ar gael yng Nghanolfan CAMU, ac mae’n disgrifio’r gwaith adeiladu sydd wedi cael ei wneud yno fel “addasiad o goridor oedd yn bodoli eisoes”.

Dywed fod tair ystafell ddysgu ar gyfer gwersi Cymraeg, un ar gyfer cwrs dwyieithog, swyddfa i ddarlithwyr a desgiau ar gyfer asiantaethau megis yr Urdd.

Mae gan y ganolfan swyddfa arall at ddefnydd y Cyngor, meddai.

Ymhlith y cyfleusterau sydd ar gael yn yr ystafelloedd mae byrddau gwyn rhyngweithiol.

“Ond,” meddai, “wrth edrych ar y costau anferth uchod, dydy o ddim yn gwneud synnwyr.

“Makeover o’r ystafelloedd ar y coridor hwnnw ydy o mewn gwirionedd. Mae’n ymddangos mai’r unig waith adeiladu go iawn yw bod un wal fewnol wedi’i dymchwel.”

Pwysleisia hefyd nad yw’r un swydd newydd wedi cael ei chreu gan y Ganolfan.

‘Tanseilio ein hymdrechion’

Rhybuddia hefyd y gallai Canolfan CAMU beryglu un o ffynonellau incwm Saith Seren, gan y bydd yn cystadlu â Phrifysgol Bangor “i gael yr hawl i ddarparu cyrsiau ar draws y gogledd”.

“Mae agor CAMU ac ein hanwybyddu o ran y cais grant yn beth digon drwg, ond byddai tanseilio ein hymdrechion ni i aros ar agor yn hollol annerbyniol.”

Mae Chris Evans wedi galw ar Carwyn Jones unwaith eto i sicrhau nad yw arian cyhoeddus wedi cael ei gamddefnyddio, ac fe ddywed fod bwriad i gynnal archwiliad o’r ffordd y mae’r arian wedi cael ei wario.

Ychwanega y dylai unrhyw arian dros ben o’r grant i Ganolfan CAMU gael ei drosglwyddo i Saith Seren “er mwyn i ni allu prynu ein hadeilad a diogelu dyfodol yr iaith Gymraeg”.

‘Cael ein boddi’

“Mewn wythnos ble roedden ni’n cael ein hatgoffa o golli cymdeithas o Gymry Cymraeg Cwm Tryweryn 50 mlynedd yn ôl, efallai bod hyn wedi ychwanegu at ein pryder am ddyfodol ein cymdeithas Gymraeg ni yn Wrecsam.

“Rydyn ni’n cael ein boddi, nid mewn dŵr, ond mewn môr o’r iaith Saesneg, ac mae’r unig ‘ynys’ er mwyn cynnal y gymdeithas Gymraeg  mewn perygl o fynd o dan y don, a does dim un corff awdurdodol yn fodlon ein helpu.”

Mae Carwyn Jones wedi addo ymateb i’r llythyr cyntaf erbyn canol mis Tachwedd.